Llys: Gyrrwr yn llewygu cyn marwolaeth
- Cyhoeddwyd

Mae llys yng Nghaernarfon wedi clywed fod gyrrwr heb wneud unrhyw ymdrech i arafu yn ystod yr eiliadau cyn i'w gerbyd yrru dros fyfyrwraig a'i lladd.
Roedd cerbyd Kevin Rose mewn gwrthdrawiad gyda Vauxhall Corsa cyn gyrru ar bafin ym Modelwyddan ym mis Tachwedd 2013. Fe darodd yn erbyn Lucy Brown, 18 oed o Brestatyn, oedd yn cerdded ar hyd y llwybr troed.
Clywodd y llys honiadau ddydd Llun fod Mr Rose wedi llewygu cyn gyrru dros Miss Brown a'i lladd ar ôl iddo yfed coffi wrth yrru.
Mae Mr Rose, 70 oed, o Guilford yn Surrey, yn gwadu cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ac yn gwadu cyhuddiad arall o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddi-ofal.
Dywedodd yr erlyniad wrth y llys fod Mr Rose yn mynnu ei fod wedi cymryd diferyn o goffi o'i fflasg tra oedd ei gerbyd yn sefyll yn llonydd, ond fe ddechreuodd dagu wrth iddo ddechrau gyrru yn ei flaen.
Honnwyd ei fod wedi dweud: "Roedd bron fel bod rhywbeth wedi mynd yn sownd yn fy ngwddf. Dyna'r peth olaf y gallaf gofio."
Yfed coffi
Ond fe honnodd yr erlyniad fod Mr Rose wedi yfed coffi tra oedd ei gerbyd yn symud, gan ddweud fod hylif wedi ei ddarganfod wrth lle roedd traed y gyrrwr i fod, ac roedd hylif wedi ei golli rhwng y llyw a'r panel blaen.
Clywodd y rheithgor fod Mr Rose yn gyrru fan 7.5 tunell Mercedes ar y pryd ac fe fyddai Lucy Brown wedi marw'n syth yn ystod y gwrthdrawiad.
Dywedodd ymchwilydd damweiniau fforensig, Brian Grocott, wrth y llys ddydd Mawrth fod tacograff yn y cerbyd wedi dangos nad oedd Mr Rose wedi arafu wrth i'w gerbyd daro'r fyfyrwraig. "Nid oes unrhyw arwydd o'r tacograff bod unrhyw ymdrech ymwybodol gan y gyrrwr i newid ei gyflymder", meddai.
Galwodd yr erlyniad hefyd am dystiolaeth gan y gwyddonydd fforensig Andrew Davidson. Esboniodd ei fod wedi archwilio lluniau o lle'r oedd y coffi wedi cael ei ddarganfod yn y cerbyd. Dywedodd fod y lluniau'n awgrymu nad oedd y coffi wedi dod o ganol y car rhwng y ddwy sedd flaen yn ystod y gwrthdrawiad.
Roedd yn credu fod y coffi yn fwy na thebyg yn nwylo'r gyrrwr ger y llyw yn hytrach nag wedi dod o'r teclyn dal coffi rhwng y ddwy sedd.
Clywodd y rheithgor fod Mr Rose yn gyrru fan 7.5 tunell Mercedes ar y pryd ac fe fyddai Lucy Brown wedi marw'n syth yn ystod y gwrthdrawiad.
Mae'r achos yn parhau.