Fideo rhyw: Achos disgyblu athrawon
- Cyhoeddwyd

Mae gwrandawiad disgyblu wedi clywed fod pennaeth ysgol uwchradd ac athrawes wedi cael eu recordio gan ddisgybl yn cael rhyw tu ôl i ddrws swyddfa'r pennaeth.
Cafodd recordiad sain 30 eiliad o'r digwyddiad ei roi ar wefannau cymdeithasol gan ddisgyblion.
Mae'r pennaeth, Graham Daniels, 51 oed, a Bethan Thomas, athrawes gemeg 37 oed, yn wynebu gweld eu henwau yn cael eu tynnu oddi ar y gofrestr ddysgu os yw'r cyhuddiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol yn cael ei brofi yn erbyn y ddau.
Derbyniodd yr ysgol gŵyn ac fe gafodd y tâp sain ei archwilio gan lywodraethwyr a phenaethiaid addysg.
Fe ymddiswyddodd Mr Daniels a Ms Thomas o Ysgol Gyfun Bryn Tawe yn Abertawe, wedi i'r recordiad sain ymddangos ar y we.
Gwrandawiad
Clywodd gwrandawiad o Gyngor y Gweithlu Addysg yng Nghaerdydd ddydd Mercher fod nifer yn yr ysgol yn ymwybodol fod perthynas yn bodoli rhwng y ddau.
Dywedodd Louise Price, y swyddog cyflwyno yn y gwrandawiad mai canlyniad hyn oedd bod "gweithred ryw wedi cael ei recordio ar ffôn gan ddisgybl" ac fe "gafodd hyn ei rannu ag eraill."
"Mae hyn yn amlwg yn ymddygiad annerbyniol amlwg rhwng dau athro proffesiynol ar eiddo'r ysgol yn ystod amser addysgol", meddai.
Clywodd y gwrandawiad fod y ddau wedi cael eu recordio yn gwneud "synnau rhyw" gan ddisgybl oedd wedi ffilmio fideo o ddrws y swyddfa.
Dywedodd Miss Price: "Fe recordiodd y disgybl fideo yn anelu tuag at ddrws y swyddfa lle roedd modd clywed griddfannau. Yna fe roddodd y disgybl y fideo ar YouTube ac fe gafodd ei wasgaru yn sydyn ymysg y myfyrwyr."
Yna fe roddodd y disgybl y fideo ar ei dudalen Facebook ac fe gafodd Mr Daniels glywed am hyn.
Ychwanegodd Miss Price: "Fe alwodd (Mr Daniels) y disgybl yn ei gartref a dweud wrtho am dynnu'r fideo oddi ar y wefan, ac fe wnaeth hynny.
"Fe alwodd Mr Daniels y disgybl i'w swyddfa'r diwrnod canlynol yn ystod amser cinio i ofyn os oedd wedi gwneud fel yr oedd wedi ei ofyn. Dywedodd y bachgen fod Mr Daniels yn ymddangos fel ei fod "mewn sioc, nid yn flin".
Roedd morale athrawon yn yr ysgol yn isel yn dilyn cyhoeddi'r fideo ar y we, meddai Miss Price.
Gwasanaeth arbennig
Clywodd y gwrandawiad fod gwasanaeth arbennig wedi cael ei gynnal yn yr ysgol er mwyn dweud wrth y disgyblion i anwybyddu'r fideo a chanolbwyntio ar eu harholiadau.
Ond fe wnaeth y disgyblion barhau i rannu'r fideo ar wefannau cymdeithasol.
Yna fe waharddodd yr ysgol y disgyblion rhag trafod y fideo ar y gwefannau cymdeithasol hyn gan ddweud fod hyn yn "niweidio enw da'r ysgol".
Fe wnaeth y dirprwy bennaeth fabwysiadu dyletswyddau'r pennaeth tra roedd penaethiaid addysg yn penderfynu ar ddyfodol Mr Daniels. Fe symudodd Bethan Thomas - oedd yn cael ei adnabod yn flaenorol fel Mrs Bale - i ddysgu mewn ysgol arall.
Mae'r gwrandawiad yng Nghaerdydd yn parhau ac mae disgwyl iddo bara am dridiau.