Cynllun i wella gwasanaethau mabwysiadu
- Published
Fore Mercher mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun i "gryfhau gwasanaethau mabwysiadu a maethu yng Nghymru" wedi i Gymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain (BAAF) ddirwyn i ben.
Fe fydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gyfrifol am gadw Cofrestr Fabwysiadu Cymru a bydd staff perthnasol BAAF Cymru yn trosglwyddo i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Yn ogystal bydd corff newydd yn gyfrifol am hyfforddiant, ymgynghori, cyngor cyfreithiol a llinell gymorth i'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.
Fe fydd y corff - Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru @ Dewi Sant - yn canolbwyntio ar wasanaethau yn benodol i Gymru, ac yn recriwtio o blith staff BAAF Cymru.
'Strwythur cadarn newydd'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford: "Bydd y trefniadau hyn yn cryfhau ac yn sicrhau dyfodol y gwasanaethau mabwysiadu a maethu yr oedd BAAF Cymru yn eu darparu yn ogystal â sicrhau swyddi i staff oedd yn cael eu cyflogi gan BAAF Cymru.
"Cyn gynted ag y cawsom ni wybod am gynlluniau BAAF i gau, cawsom drafodaethau gyda'r gweinyddwyr i sicrhau bod y gwasanaethau'n parhau'n sefydlog am chwe wythnos arall i helpu plant a chynorthwyo pobl sydd eisiau maethu a mabwysiadu.
"Yn ystod y cyfnod hwn o chwe wythnos rydym wedi hyrwyddo strwythur cadarn newydd sy'n adeiladu ar arbenigedd BAAF Cymru ar draws ystod o wasanaethau a gweithgareddau.
"Mae staff BAAF Cymru wedi parhau i ddarparu'r gwasanaethau hyn tan y dyddiad cau, felly doedd dim tarfu ar wasanaethau.
'Sefyllfaoedd mwyaf bregus'
"Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn rhannu ein nod, datblygu a gwella Cofrestr Fabwysiadu Cymru. Rwy'n credu bod y trefniadau newydd hyn yn gam tuag at wneud y gofrestr yn fwy effeithiol fyth ac yn haws ei defnyddio.
"Rwy'n hyderus y byddan nhw'n arwain at wella gwasanaethau a hoffwn ddiolch i'r holl staff a sefydliadau cysylltiedig am weithio gyda ni.
"Gyda'n gilydd rydym wedi gosod trefniadau i gefnogi'r plant a'r bobl ifanc yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus yng Nghymru.
"Rwy'n gobeithio y byddaf yn gallu gwneud cyhoeddiad yn fuan iawn ynglŷn â dyfodol y drefn adolygu annibynnol."