Darogan dyfodol llwm i economi Cymru
- Cyhoeddwyd

Bydd mwy o weithwyr heb sgiliau yn chwilio am swyddi anwadal tâl isel erbyn 2020 - dyna'r darogan mewn adroddiad gan Sefydliad Bevan, corff sy'n datblygu syniadau er mwyn dylanwadu ar bolisïau cyhoeddus.
Yn ôl eu harbenigwyr, fe allai'r bwlch rhwng Cymru a'r DU o ran cynhyrchion ehangu, ac mae'r Sefydliad yn awgrymu bod angen ffyrdd radical o weithredu wrth i broblemau bentyrru.
Mae'r corff yn awgrymu tri darlun posib pe bai'r darogan presennol yn gywir, gyda'r rhagolygon ar gyfer Cymru ymhen pum mlynedd ymhell o fod yn llewyrchus pe bai'r amcangyfrifon yn llygad eu lle.
Ond mae Swyddfa Cymru wedi dweud bod cyflogau a safonau byw yn gwella.
Dywed Sefydliad Bevan bod angen i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus ailystyried y ffordd mae nhw'n gweithio er mwyn taclo'r her i safonau byw.
Mae'r gwaith ymchwil yn nodi bod "pobol gyda syniadau newydd wedi eu hanwybyddu yn y gorffennol neu eu diystyru".
Yn ôl y cyfarwyddwr ac awdur yr adroddiad, Dr Victoria Winckler: "Mae'n amser am rhywbeth newydd."
Mae na alw am ddefnyddio amgylchedd Cymru, ei hanes a'i diwylliant, busnesau a sefydliadau ac "yn fwy hanfodol na dim sgiliau a gwydnwch ei phobl".
Tlodi difrifol
Mae adroddiad The Shape of Wales to Come yn edrych ar y darogan ar sefyllfa Cymru ymhen pum mlynedd. Ymysg ei ddarganfyddiadau mae darogan:
- Bydd cynhyrchiant Cymru (GVA) ar ei hôl hi o'i gymharu gyda rhan fwya o ranbarthau'r DU.
- Bydd na dŵf yn nifer swyddi rheolwyr a swyddi proffesiynol fyddai'n cyfateb i 40% o'r holl swyddi, ond mae disgwyl i 12% o swyddi sgiliau isel, neu rhai heb sgiliau ddiflannu, gan greu cystadleuaeth ffyrnig yn y farchnad lafur.
- Bod lleiafrif y boblogaeth mewn perygl o wynebu tlodi difrifol.
- Bydd gweithwyr y sector gyhoeddus, a'r rhai sydd ar fudd-daliadau yn wynebu gostyngiad mewn incwm.
- Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae'n debygol y bydd mwy yn wynebu gwaeledd.
- Fe allai perygl llifogydd a diogelwch dŵr a chyflenwadau ynni fod yn bryder cynyddol, gyda'r diffyg yn parhau yn isadeiledd trafnidiaeth a thechnoleg gwybodaeth er gwaethaf buddsoddiad.
'Angen rhagweld y dyfodol'
Dywedodd Ms Winckler, cyfarwyddwr Sefydliad Bevan: "Dyma'r heriau mwya i wynebu Cymru mewn cenhedlaeth. Mae nhw'n galed yn unigol, ond fel bysiau mae nhw i gyd yn dod ar unwaith."
Wrth drafod sut i weithredu, mae'r adroddiad yn nodi nad yw parhau fel yr ydyn ni yn opsiwn, a bod angen rhagweld y dyfodol, nid dim ond ymateb i'r presennol.
Mae'n cwestiynu y cysyniad o gynlluniau fel prescripsiwn am ddim i bawb, gan awgrymu y gellid ail-edrych ar y cynllun teithio am ddim i bensiynwyr.
Dywedodd Dr Martin Rhisiart, economydd ym Mhrifysgol De Cymru, ei fod yn adroddiad diddorol ond bod ansicrwydd am y rhagolygon economaidd.
"Weithiau, dydyn ni ddim yn hunan-farnu digon yng Nghymru. Does gennym ni ddim meddwl annibynnol, mae gan y wladwriaeth ormod o ddylanwad ym mywydau pobl, does gennym ni ddim sector breifat mor fawr, felly ychydig iawn o sefydliadau unigol sy'n gwneud neu'n comisiynu ymchwil ar themâu'r adroddiad yma."
Yn siarad ar Rhaglen Dylan Jones ar Radio Cymru, ychwanegodd Dylan Jones-Evans, Athro Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Bryste: "Mae nifer o fusnesau newydd yn tyfu yng Nghymru - sy`n uwch nag ar unrhyw adeg arall, mae mwy o gwmnïau yn dod i Gymru.
"Hyd yn oed yn y sector gynhyrchu rhwng 1999-2010 roedd 70,000 o swyddi cynhyrchu wedi eu colli yng Nghymru. 'Da ni wedi creu 20,000 o swyddi yn sector ers hynny."
'Llywodraeth gefnogol'
Yn ymateb, dywedodd Swyddfa Cymru bod y wlad yn un uchelgeisiol gyda dyfodol cryf yn economaidd.
"Er y ffaith mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw nifer o'r materion sy'n cael eu trafod yn yr adroddiad, mae'n anwybyddu'r trawsnewidiad mae economi Cymru wedi ei brofi dros y pum mlynedd diwethaf," meddai llefarydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried y materion a nodir yn yr adroddiad, a'u bod yn cydweithio'n agos a chwmnïau er mwyn sicrhau twf a swyddi ym mhob rhan o'r wlad.
"Mae mewnfuddsoddiad ar ei uchaf ers degawdau oherwydd bod buddsoddwyr yn gwybod y gallan nhw ddibynnu ar lywodraeth gefnogol a gweithlu medrus," meddai'r llefarydd.