Fideo rhyw: Athrawes yn 'edifar'
- Cyhoeddwyd

Mae athrawes cemeg sydd wedi cyfaddef iddi gael rhyw gyda phennaeth ei hysgol yn Abertawe wedi dweud wrth wrandawiad disgyblu fod ganddi 'edifeirwch mawr' am yr hyn ddigwyddodd.
Daeth perthynas Bethan Thomas gyda'r pennaeth Graham Daniels i'r amlwg wedi i un o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ffilmio fideo o un digwyddiad pan roedd y ddau yn cael rhyw y tu ôl i ddrws swyddfa'r pennaeth a rhannu'r fideo ar wefannau cymdeithasol.
Mewn gwrandawiad disgyblu Cyngor y Gweithlu Addysg yng Nghaerdydd, fe ofynnwyd i Ms Thomas os oedd hi'n gwybod os oedd yr hyn yr oedd hi'n ei wneud yn anghywir.
"Oeddwn," meddai. "Roedd fy ymddygiad yn disgyn islaw'r safonau disgwyliedig oedd i'w disgwyl ohono i fel athrawes ac mae gen i edifeirwch mawr am hyn."
Dywedodd wrth y gwrandawiad ei bod ar gytundeb dros dro oedd yn dibynnu ar ganlyniad y gwrandawiad disgyblu.
Fideo
Cafodd fideo clip 34 eiliad o hyd, oedd yn cynnwys yr hyn oedd yn ymddangos fel 'synau rhyw' yn dod o swyddfa'r pennaeth, ei roi ar wefan YouTube fis Ebrill diwethaf.
Dywedodd Heini Gruffudd, cadeirydd y llywodraethwyr yn yr ysgol, wrth y gwrandawiad ei fod yn ystyried y ddau athro fel rhai rhagorol.
Clywodd y gwrandawiad fod y llywodraethwyr wedi croesawu penderfyniad yr athrawon i ymddiswyddo, ond roedd yn credu bod gan y ddau ddyfodol ym myd addysg.
"Oedd dyn yn ymwybodol y bydde hi'n anodd iawn i'r ddau barhau yn yr ysgol, ond byddwn i ddim yn teimlo nad oedd modd iddyn nhw barhau yn athrawon mewn ysgolion eraill," meddai.
Mae'r ddau athro wedi cyfaddef iddyn nhw gymryd rhan mewn gweithredoedd rhyw ar dir yr ysgol dros gyfnod o 11 mis rhwng mis Mai 2013 ag Ebrill 2014.
Ond maen nhw'n gwadu honiadau fod gweithredoedd o'r fath wedi eu gweld gan staff a disgyblion.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.
Straeon perthnasol
- 8 Medi 2015