Ymchwilio wedi tân mewn dau dŷ yn Aberogwr
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad wedi dechrau i achos tân mewn dau dŷ yn Aberogwr brynhawn dydd Mercher.
Cafodd 40 o ddiffoddwyr eu galw i ddelio gyda'r digwyddiad.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
Dywedodd y gwasanaeth tân bod y fflamau wedi lledaenu o un tŷ i'r tŷ drws nesaf, a bod to un o'r tai wedi dymchwel.
Cafodd y gwasanaeth tân ei alw am 13:50, ac fe aeth dau griw o Ben-y-bont ar Ogwr, criw o Fynydd Cynffig, un o'r Bont-faen a cherbyd dŵr o'r Barri, ynghyd ag offer arbennig o Gaerdydd i'r digwyddiad.
Ffynhonnell y llun, Arall
Ffynhonnell y llun, Arall