Boddi mewn pwll: Marwolaeth ddamweiniol
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed sut y bu i ddyn 28 oed o'r gogledd foddi mewn pwll ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon.
Bu farw Shaun Stevenson o Faes Glas ym mis Ebrill ar ôl iddo fod yn yfed gyda ffrindiau.
Y gred yw ei fod wedi neidio i'r dŵr a mynd i drafferthion yn fuan wedyn.
Fe ddaeth Uwch Grwner Dwyrain a Chanolbarth Gogledd Cymru, John Gittins, i'r casgliad fod marwolaeth Mr Stevenson yn ddamwain.