Herio cefnogaeth iaith Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Mae tiwtor Cymraeg o Gastellnewydd Emlyn wedi cwestiynu faint o gefnogaeth ac adnoddau sydd yna i hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg yn ysgolion Sir Gaerfyrddin.
Yn ôl Richard Vale mae hi'n "siomedig" bod yr awdurdod wedi cwtogi cyllideb Athrawon Gwella'r Gymraeg a Dwyieithrwydd.
Mewn cwestiwn ysgrifenedig i'r Cyngor, mae Mr Vale wedi gofyn pam mae hwyr ddyfodiaid yn Sir Gâr yn cael 30 diwrnod mewn canolfan iaith tra bod plant yng Ngwynedd yn cael mynychu cyrsiau dwys am 60 diwrnod.
Mae'n dweud fod yna bryder bod plant yn Sir Gâr dan anfantais sylweddol o'u cymharu â disgyblion Gwynedd a bod y "sefyllfa yn gwaethygu oherwydd diffyg adnoddau," ac mae'n galw am "gymryd camau pellach i gryfhau'r ddarpariaeth i hwyrddyfodiaid yn Sir Gâr."
Wrth ymateb i'r feirniadaeth, mae'r aelod cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Gareth Jones yn dweud bod yna "newidiadau yn digwydd i'r gyllideb, mae'n rhaid i'r ysgolion eu hunain i fod yn greadigol gyda'r grant effeithlonrwydd ysgolion... felly mae cyfrifoldeb ar ysgolion unigol."
Yn ôl y Cynghorydd Jones, does yna "ddim cysondeb" ar draws Cymru am yr her o addysgu hwyrddyfodiaid ac mae'n "rhaid i ni weithio yn drawsffiniol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Mae disgwyl i bob awdurdod lleol, wrth baratoi Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, ddangos sut y maen nhw'n bwriadu cynyddu gallu hwyrddyfodiaid i gymryd mantais o'r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg drwy gynlluniau trwytho addysgiadol a chanolfannau i hwyrddyfodiaid. Mae modd iddynt ddefnyddio Grant Gwella Addysg tuag at gost y fath ddarpariaeth.
"Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol unigol yw penderfynu sut i gyflunio unrhyw ddarpariaeth i ateb y galw yn lleol."