Academydd eisiau ymddiheuriad gan awdurdodau Gwlad Thai

  • Cyhoeddwyd
Wyn EllisFfynhonnell y llun, Wyn Ellis
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd y Dr Wyn Ellis fod darganfod ei fod yn cael ei ystyried fel bygythiad i Wlad Thai wedi bod yn 'sioc fawr'

Mae academydd gafodd ei ddal mewn maes awyr yng Ngwlad Thai yn sgil adroddiad yr oedd wedi'i ysgrifennu naw mlynedd yn ôl i'r Cenhedloedd Unedig, wedi galw ar i swyddogion mewnfudo ymddiheuro.

Cafodd Wyn Ellis, o Abertawe, ei ddal am bedwar diwrnod yn dilyn ffrae am lên-ladrad oedd wedi codi yn sgil yr adroddiad.

Roedd cyn swyddog o Wlad Thai wedi rhoi enw'r Dr Ellis ar restr o bobl fyddai'n cael eu hatal rhag dod mewn i'r wlad, ar ôl iddo golli achosion yn ei erbyn. Roedd yr academydd wedi ei gyhuddo o ddwyn ei waith.

Mae 'na gais ar i Lysgenhadaeth Gwlad Thai wneud sylw ar y mater.

Dywedodd Dr Ellis wrth BBC Cymru nad oedd yn ymwybodol o fodolaeth y rhestr nes i'r wlad rwystro mynediad iddo gyda phasport y DU yn hytrach na'i basport Gwlad Thai.

'Sioc'

Meddai Dr Ellis: "Roedd hi'n dipyn o sioc darganfod 'mod i wedi fy nghyhuddo o fod yn fygythiad i gymdeithas Gwlad Thai, ar ôl byw yn y wlad a chyfrannu at ei datblygiad am, dd'wedwn i, rhyw 30 blynedd nawr."

Mae Dr Ellis yn briod ag academydd o Wlad Thai.

Dywedodd swyddogion wrtho y byddai'n cael ei anfon i Norwy.

Yn ôl Dr Ellis, roedd wedi esbonio cefndir y ffrae gyda chyn bennaeth yr Asiantaeth Arloesi Genedlaethol, Supachai Lorlowhakarn, ddaeth i fwcl gyda'r swyddog yn colli saith achos enllib yn erbyn Dr Ellis. Fe gollodd y swyddog hefyd ei ddoethuriaeth ac fe'i cafwyd yn euog o ffugio.

Mae Dr Ellis nawr yn galw ar yr adran fewnfudo i gondemnio gweithredoedd eu cyn arweinydd a chymryd camau yn ei erbyn am gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.