Benthyciadau Maes Awyr Caerdydd yn 'torri rheolau'

Cardiff Airport Image copyright Maes Awyr Caerdydd

Mae Llywodraeth Prydain wedi rhybuddio ei bod hi'n bosib bod benthyciadau gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru i Faes Awyr Caerdydd wedi torri rheolau Ewropeaidd.

Ym mis Mehefin daeth cyhoeddiad bod cwmni Flybe yn bwriadu hedfan i ddeg lleoliad newydd - y newid mwyaf trawiadol ers i Lywodraeth Cymru brynu'r maes awyr am £52m ddwy flynedd yn ôl.

Mae BBC Cymru wedi gweld llythyr sy'n awgrymu y byddai'r Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried benthyciadau i farchnata gwasanaethau newydd Flybe yn rhai amhriodol.

Awgrymodd un ffynhonnell o fewn Llywodraeth Cymru fod cymhelliad gwleidyddol gan lywodraeth Prydain wrth geisio amharu ar y maes awyr, a brynwyd gan Lywodraeth Cymru ddwy flynedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad yw cynnig benthyciadau yn anghyffredin, ac nad yw Maes Awyr Caerdydd wedi ei drin yn wahanol i unrhyw gwmni arall.

'Torri rheolau'

Mae BBC Cymru wedi gweld copi o lythyr yn amlinellu sut y bydd £12m yn cael ei wario ar farchnata gwasanaethau newydd Flybe dros y tair blynedd nesaf.

Mae'r Maes Awyr eisoes wedi derbyn benthyciad o £10m er mwyn gwella adeilad y terminws. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno benthyciad o £13m ar gyfer datblygu gwasanaethau newydd. Bydd gofyn talu'r holl arian yn ôl dros y ddegawd nesaf.

Yn y llythyr, mae swyddog yn yr Adran Drafnidiaeth yn Llundain yn awgrymu pe bai'r Comisiwn Ewropeaidd yn craffu ar y benthyciad "fe fydden nhw'n casglu nad yw'r cytundeb yn cyd-fynd ag MEIP [Market Economy Investment Principles], ac yn dyfarnu nad yw'n cyd-fynd â rheolau'r Comisiwn Ewropeaidd parthed cymorth gwladwriaethol".

Image caption Fe wnaeth Flybe gyhoeddi nifer o deithiau newydd o Gaerdydd yn gynharach eleni

Bydd y maes awyr yn talu'r arian yn ôl dros gyfnod o ddeg mlynedd. Ond mae'r llythyr yn awgrymu y gallai amcangyfrif gan Flybe o'r niferoedd fydd yn hedfan fod yn anghywir, a bod hi'n aneglur a fyddai unrhyw fuddsoddwyr preifat yn mentro cefnogi'r fenter.

Er mwyn talu'r arian yn ôl, bydd y Maes Awyr yn defnyddio arian o lwfans defnyddio'r maes awyr, a gwariant gan deithwyr yn adeilad y terminws.

Casgliad y llythyr yw bod y dull yma "yn debyg o gael ei ystyried yn gymhorthdal uniongyrchol i'r cwmni".

'Cefnogol i fusnesau'

Dywed Llywodraeth Cymru fod y cwmni sydd yn rhedeg y maes awyr yn cael ei redeg ar sail fasnachol ac mae'n fusnes hyd braich o benderfyniadau masnachol a gweithredol y llywodraeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Llywodraeth sy'n gefnogol i fusnesau yw hon, a dyw cytuno benthyciad masnachol â busnesau ddim yn anghyffredin nac yn mynd tu hwnt i arferiad Llywodraeth Cymru.

"Yn y cyd-destun yma, dyw Maes Awyr Caerdydd ddim yn cael ei drin yn wahanol i unrhyw sefydliad masnachol arall."

Dywedodd llefarydd ar ran yr adran drafnidiaeth: "Mae Llywodraeth Cymru yn y broses o roi sicrwydd i Lywodraeth Prydain eu bod yn cydymffurfio â rheolau cymorth gwladwriaethol yr Undeb Ewropeaidd ar ariannu meysydd awyr neu gwmnïau awyrennau."

Dywedodd Debra Barber, Rheolwr-Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd, ei bod hi'n hyderus nad oedd unrhyw reolau wedi'u torri.

Straeon perthnasol