Key yw'r allwedd i Gaint yn erbyn Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Rob Key oedd prif sgoriwr Caint wrth iddyn nhw gyrraedd 309 yn eu batiad cyntaf yn erbyn Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd ddydd Mercher.
Sgoriodd Key 94, gan helpu i'r ymwelwyr gyrraedd 212-2, cyn colli ei wiced i fowlio David Lloyd.
Daeth cyfraniadau hefyd gan Sean Dickson (59), Sam Northeast (56) a Darren Stevens (64).
Michael Hogan oedd y gorau o fowlwyr Morgannwg, gan gymryd 4-51 oddi ar 20 pelawd, ac fe gafodd David Lloyd 3-80. Roedd wicedi hefyd i Graham Wagg a Craig Meschede.
Mewn ymateb fe wnaeth Morgannwg gyrraedd 65-4 ar ddiwedd y dydd, wrth i Jeremy Lawlor a James Kettlebrough golli eu wicedi yn gynnar.
Sgoriodd David Lloyd 16 a Colin Ingram 20 cyn colli eu wicedi hefyd.
Chris Cooke (20) ac Andrew Salter (0) fydd yn parhau ar ail ddiwrnod y chwarae ddydd Iau, gyda Morgannwg 244 ar ei hol hi.