BBC Cymru Fyw

Gyrrwr fan yn euog o achosi marwolaeth merch 18 oed

Published
image copyrightDaily Post
image captionKevin Rose tu allan i'r llys

Mae dyn 57 oed o Guilford yn Surrey wedi ei gael yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal yn Sir Ddinbych.

Roedd cerbyd Kevin Rose mewn gwrthdrawiad gyda Vauxhall Corsa cyn gyrru ar bafin ym Modelwyddan ym mis Tachwedd 2013.

Fe darodd Lucy Brown, 18, o Brestatyn, oedd yn cerdded ar hyd y llwybr troed, a bu hi farw'n syth.

Penderfynodd y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon fod Rose yn ddi-euog o gyhuddiad arall o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod adroddiadau'n cael eu paratoi.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yn ddiweddarach yn yr hydref.

image copyrightFacebook
image captionClywodd y llys y byddai Lucy Brown wedi marw'n syth yn ystod y gwrthdrawiad

Straeon perthnasol

  • Gwrthdrawiad fan: Rheithgor yn ystyried