100 Diwrnod tan Diwrnod 'Dolig!
- Cyhoeddwyd
Credwch neu beidio, dim ond 100 diwrnod sydd yna i fynd tan y bydd hi'n Ddiwrnod 'Dolig. Mae'r siopau wrthi'n paratoi... Ydych chi'n barod am hwyl yr ŵyl?

Bagiau neis i chi gael rhoi'r anrhegion 'na sydd yn amhosibl eu lapio... neu os nad oes 'da chi amynedd i'w lapio!
Ci bach pert i ddal eich coeden... ond o leiaf dyw'r coed Nadolig ddim ar werth eto!
Peidiwch i gyd â rhuthro i brynu hwn
Bendigedig! Siocled i'm hosan!
Does bosib bydd cardiau Nadolig ar werth? Ha, meddyliwch eto!
Gan gynnwys cerdyn Nadolig i'ch hoff ewythr...
Mae hwn yn gobeithio y bydd hi'n oer iawn y gaeaf hwn!
Does dim amheuaeth pa nwyddau sy'n cael eu gwerthu yma!
A chofiwch roi'r labeli cywir ar yr anrhegion 'na
Mae'r ceirw'n paratoi ar gyfer cario'r anrhegion gyda Siôn Corn
A chofiwch y cardiau rhad 'na ar gyfer eich 'ffrindiau' yn y gwaith!
Wel dyma'r tinsel... ond ble mae'r goeden?
Ha! Yn llechu ar y silff waelod... ar hyn o bryd. Nadolig Llawen!!