Swyddi newydd i Sony ym Mhen-y-bont
- Cyhoeddwyd

Bydd 30 o swyddi newydd yn cael eu creu gan Sony ym Mhen-y-bont wrth i'r cwmni lansio gwasanaeth storfa ddigidol newydd ar gyfer cynnwys sain a fideo.
Mae'r buddsoddiad gwerth £1.1m wedi ei gefnogi gyda benthyciad gan Lywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau fod y cynllun yn cael ei leoli yng Nghymru.
Wrth ymweld â Siapan, fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones groesawu'r newyddion fod Sony yn ehangu ei weithgareddau busnes yng Nghymru.
Dywedodd Steve Dalton o Ganolfan Technoleg Sony ym Mhencoed y byddai'r cynllun newydd yn cryfhau gwasanaethau presenol y cwmni.