Pryder am dlodi teuluoedd mewn gwaith

  • Cyhoeddwyd
TlodiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyflogau isel a phrinder oriau gwaith yn gwthio pobl ifanc a theuluoedd sydd yn gweithio i mewn i dlodi, yn ôl adroddiad newydd.

Dywed sefydliad y Joseph Rowntree Foundation fod nifer y plant mewn teuluoedd sydd yn gweithio ond mewn tlodi yng Nghymru wedi cynyddu o 22,000 rhwng 2003 a 2013.

Dywedodd prif weithredwraig y sefydliad, Julia Unwin, fod camau i gynnig cymorth i bensiynwyr yn cydfynd gyda "chynnydd pryderus" yn nifer y bobl mewn gwaith oedd yn cael trafferth i ddal dau ben llinyn ynghyd.

Yn ôl llywodraeth Prydain fe fydd cynlluniau ar gyfer cyflog byw cenedlaethol o gymorth i bobl.

"Gwaith yw'r ffordd orau allan o dlodi ac mae cyflogaeth yng Nghymru ar ei lefel uchaf erioed", meddai llefarydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er y gwelliannau diweddar i economi Cymru, rydym, fodd bynnag, yn sylweddoli fod tlodi-mewn-gwaith yn beth sydd yn cynyddu ac rydym yn gweithio'n galed i gefnogi cartrefi incwm isel a chreu swyddi sy'n talu'n well i economi Cymru.

"Rydym yn helpu mwy o oedolion i gyrraedd gwaith llawn amser, gan gefnogi gweithwyr mewn mwy nag un swydd i mewn i waith a hefyd gwella sgiliau pobl i'w galluogi i symud i'r gweithle."

Caiff pobl eu disgrifio fel bod mewn tlodi os yw eu cartref yn ennill neu'n derbyn llai na 60% o'r incwm cenedlaethol o £450 yr wythnos ar gyfartaledd, yn dibynnu ar faint teuluoedd.