Gwadu achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal

Swansea Crown Court Image copyright Nigel Davies/Geograph
Image caption Bydd Haki Karer Celik yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ar 18 Medi

Mae dyn o'r Almaen wedi gwadu iddo achosi marwolaeth dynes o Geredigion drwy yrru'n ddi-ofal.

Bu farw Nicola Owen, 42 oed, o Ffordd Bowls, Blaenporth, yn yr ysbyty ar 4 Mawrth, yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 rhwng Blaenporth a Thanygroes ar 19 Chwefror.

Fe blediodd Haki Karer Celik, 37 oed, yn ddieuog gyda chymorth cyfieithydd pan ymddangosodd yn Llys Ynadon Aberystwyth ddydd Mercher.

Bydd yr achos llys yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Abertawe ac fe fydd y gwrandawiad nesaf ar 18 Medi.

Dywedodd y Barnwr Richard Williams wrth Celik na fydd yn cael dychwelyd i'r Almaen cyn yr achos llys ac fe gafodd ei ryddhau ar fechniaeth i gyfeiriad yn Aberystwyth ar ôl i'r llys gael sicrwydd o £10,000.

Fe fydd yn cael ei roi dan gyrffiw ac fe gafodd ei orfodi i drosglwyddo ei ddogfennau teithio rhyngwladol i'r awdurdodau.