Dyn o Geredigion yn euog o ymyrryd gyda ffau moch daear

  • Cyhoeddwyd
Moch daear

Mae gweithiwr fferm o Geredigion wedi osgoi'r carchar ar ôl iddo gyfaddef iddo ymyrryd gyda ffau moch daear a methu a rhoi triniaeth i'w gi oedd wedi ei anafu.

Fe ymddangosodd Carwyn Jenkins, 23 oed, o Rydygwyn, Llanfarian, o flaen barnwr rhanbarth yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth ddydd Mercher.

Fe blediodd yn euog i achosi dioddefaint diangen drwy fethu a chynnig gofal milfeddyg, ac i ymyrryd gyda ffau moch daear.

Bydd rhaid iddo dalu costau a chwblhau gwaith di-dal, a chafodd ei wahardd rhag cadw cwn am bum mlynedd.

Lluniau

Clywodd y llys fod ci wedi ei ddarganfod gydag anafiadau yng nghartref Mr Jenkins. Roedd yr awdurdodau'n tybio fod yr anaf wedi cael ei achosi wedi i'r ci fod yn ymladd gydag anifail gwyllt ychydig ddyddiau'n gynharach, ac nid oedd milfeddygon lleol wedi eu galw i drin y ci.

Dangosodd lluniau ar ffôn symudol Carwyn Jenkins gi ger twll ffau moch daear gyda mochyn daear gerllaw.

Daeth swyddogion o hyd i olion tyllu ar y safle.

Clywodd y llys fod yr ymchwiliad a chostau cyfreithiol wedi costio £12,617.11.

'Elfen o bleser'

Dywedodd y Barnwr Richard Williams fod y drosedd yn cyfiawnhau cosb o garchar, ond byddai'n gyfnod "byr iawn", ac fe fyddai gorfodi Jenkins i wneud gwaith di-dâl yn golygu y byddai'n cyfrannu rhywbeth yn ôl i'r gymuned.

Ychwanegodd: "Y rheswm pam na wnaethoch chi gynnig triniaeth i'r ci oedd y byddai milfeddyg wedi sylweddoli beth oedd yn digwydd. Felly roedd yn fwriadol.

"Roedd ymyrryd gyda'r ffau yn rhywbeth sydd yn eglur i mi, ac y gwnaethoch er mwyn gwneud yr hyn y mae rhai pobl yn ei ddisgrifio fel 'sbort'.

"Mae'r ffaith eich bod wedi tynnu lluniau'r hyn oedd yn digwydd yn awgrymu eich bod wedi mwynhau elfen o bleser yn hyn."

Cafodd Jenkins ei ddedfrydu i gwblhau 240 o waith di-dâl, a'i orchymyn i dalu £60 i'r llys. Cafodd ei wahardd rhag cadw cwn am bum mlynedd, a'i orfodi i dalu £4000 tuag at gostau'r RSPCA.