Addysg Penfro: Ail ymgynghoriad

  • Cyhoeddwyd
Tasker
Disgrifiad o’r llun,
Dan gynllun gwreiddiol y cyngor, byddai ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar safle Ysgol Tasker Milward

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus newydd yn cael ei gynnal i gynlluniau dadleuol i ad-drefnu addysg uwchradd yn Sir Benfro, wedi i'r cyngor sir fethu a dod i gytundeb gydag elusen sydd yn berchen ar safle hanfodol.

Roedd cynllun gwreiddiol wedi bwriadu uno dwy ysgol uwchradd yn Hwlffordd - Ysgol Syr Thomas Picton ac Ysgol Tasker Milward.

Yna, byddai ysgol cyfrwng Cymraeg newydd, i ddisgyblion rhwng 3-16, yn cael ei hadeiladu ar safle Ysgol Tasker Milward.

Ond mae'r ymddiriedolaeth sy'n berchen tir safle Tasker Milward wedi gwrthod ei ryddhau - ac nawr mae'r Cyngor wedi penderfynnu chwilio am safle arall.

Oherwydd hynny bydd yn rhai cynnal ail ymgynghoriad ac bydd hi'n chwe mis cyn y bydd penderfynniad terfynnol.

Elusen

Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal i'r cynllun gwreiddiol rhwng 23 Mawrth a 8 Mai, eleni.

Gwraidd yr anghytuno rhwng ymddiriedolaeth Tasker Millward a'r Cyngor yw dros ddarpariaeth chweched dosbarth yn Hwlffordd.

Bwriad y Cyngor ar ôl cau ysgolion Syr Thomas Picton a Tasker Milward oedd adeiladu ysgol cyfrwng Saesneg newydd i blant o dan 16.

Bydda'i addysg dros 16 ar gael mewn canolfan newydd ar safle Coleg Penfro, Hwlffordd, ond bu anghytuno brwd yn lleol am y penderfynaid.

Bydd yr ymgynghoriad newydd ar yr Ysgol Gymraeg newydd yn dechrau ar y 21 Medi a bydd y cyngor yn gwneud penderfynniad terfynnol ym Mawrth 2016.

Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Bethan Williams, swyddog maes Dyfed, Cymdeithas yr Iaith:

"Does dim safle pendant ar gyfer ysgol Gymraeg yn Hwlffordd erbyn hyn a byddai hi'n llawer gwell i'r cyngor dreulio amser ar gael safle i ysgol Gymraeg yn lle ymgynghori eto.

"Roedd yr ymateb i'r ymgynghoriad diwetha' ymysg yr uchaf i'r cyngor ei gael ond dyma nhw nawr yn gofyn i bawb ymateb eto.

Fe wnaeth cynghorwyr y sir hefyd bleidleisio o blaid cynnal ymgynghoriad newydd ar gynnig i ddod ag addysg chweched dosbarth i ben yn Nhyddewi ac Abergwaun, a rhoi addysg ôl 16 oed i ddisgyblion yr ardal mewn canolfan newydd ar safle Coleg Penfro.