Arweinydd Seneddol Plaid Cymru yn ildio'r awenau

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Edwards

Mae AS Dwyrain Caerfyrddin Jonathan Edwards wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w swydd fel arweinydd grŵp Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan.

Dywedodd Mr Edwards, gafodd ei benodi i'r swydd yn dilyn yr etholiad cyffredinol, mai rhesymau personol yn hytrach na rhai gwleidyddol oedd y rheswm am y penderfyniad.

Mae Hywel Williams, AS Arfon, wedi ei benodi yn lle Mr Edwards.

Dywedodd Mr Edwards y bydd y canolbwyntio ar gynrychioli buddiannau ei etholwyr yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Fe gafodd Mr Edwards ei benodi ar ôl i'w ragflaenydd Elfyn Llwyd ymddeol cyn yr etholiad cyffredinol.

Roedd disgwyl i'r arweinyddiaeth fynd i Hywel Williams AS, ond fe benderfynodd Mr Williams ar y pryd i beidio â derbyn y cyfrifoldeb am resymau teuluol.