Stâd y gêm ac enw'r stadiwm

  • Cyhoeddwyd
Mae 'na gryn ddadlau wedi bod am enw newydd Stadiwm y MileniwmFfynhonnell y llun, Andrew King
Disgrifiad o’r llun,
Mae enw newydd Stadiwm y Mileniwm wedi corddi'r dyfroedd

Mae yna gryn ddadlau wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol dros y dyddiau diwethaf wedi i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi mai Stadiwm y Principality fydd enw newydd Stadiwm y Mileniwm o'r flwyddyn nesaf ymlaen.

Teimladau cymysg sydd gan yr actor a'r canwr Emyr Wyn ynglŷn â'r datblygiad. Mae'n genedlaetholwr brwd ond mae hefyd yn aelod o fwrdd Clwb Rygbi'r Scarlets ac yn ymwybodol o bwysigrwydd nawdd i gynnal rygbi yng Nghymru.

Bu'n trafod ei ymateb gyda Cymru Fyw:

'Yr enw'n atgas i mi'

Fel cenedlaetholwr a gweriniaethwr, yn hollol amlwg, mae'r enw'n atgas i mi - does dim dianc oddi wrth y ffaith mod i ddim yn hoffi'r 'Principality' fel enw.

Ma'n drueni bod yr enw yn mynd i gorddi gymaint o ddrwg-deimlad. Ma' unrhyw beth sy'n ymwneud â'r frenhiniaeth yn atgas 'da fi beth bynnag - ma'n syniad hen ffasiwn ac ma'n rhaid symud 'mlaen.

Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn berthnasol i'r Gymru fodern, ond enw ydi e yn y pen draw sy'n dod â £15 miliwn i'r gêm a ma' rhywun yn meddwl faint o ddege o filoedd o Gymry sy' wedi cal morgais ganddyn nhw.

Ma'n gwmni eiconig, ma'n gwmni Cymraeg, ma'n enw anffodus, ond ma'n un o gwmnïau mwya' llwyddiannus sy' gyda ni yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Emyr Wyn yn adnabyddus fel y cymeriad Dai Sgaffalde yn 'Pobol y Cwm'

Pwysigrwydd y polisi iaith

Be' ydw i'n lico yw eu polisi iaith nhw. Fel rhywun sy' wedi cynilo rhywfaint bach gyda nhw, ma' bob dim yn dod drw'r post yn ddwyieithog.

Do'dd 'na neb yn gweiddi pan odd Principality yn ail-enwi'r gynghrair a'r gwpan, a fi'n gwbod 'i fod e'n wahanol i enwi stadiwm ond ro'n i'n amau fod rhyw gwmni am ddod mewn i ail-enwi'r stadiwm. Ma'n ffordd o ga'l arian a ma' bob stadiwm llwyddianus 'da rhyw enw cwmni ynglwm ag e.

Ma' wedi cymryd tan yn ddiweddar i fi beidio galw Stadiwm y Mileniwm yn 'Parc yr Arfau' ac falle fel 'na fydd e am byth.

Ma' polisi iaith yr Undeb (Rygbi Cymru) yn bwysicach i fi yn y pen draw. A maen nhw o'r diwedd, ar ôl blynyddoedd o swnian ac o dan arweiniad newydd Gareth Davies, wedi cymryd rhyw fath o gyfeiriad iawn cyn belled a mae dwyieithrwydd yn y cwestiwn. Mae'n rhywbeth 'dyn ni yn y Scarlets wedi bod yn 'neud ers degawd a mwy.

Ar y cae

Er bod yr enw fel mae e, ma' be' sy'n digwydd ar y cae yn bwysicach i fi - stâd y gêm yn gyffredinol. Mae'n achosi mwy o ben tost i fi i feddwl bod rhaid i dîm Cymru chwarae 16 neu 19 o gemau dros y 12 mis nesa' na beth yw enw'r stadiwm.

Gawn ni weld pa fath o argraff mae'r [newid enw] yn mynd i gael ar bobl yn Dunedin, Auckland, Johannesburg, Victoria neu beth bynnag. Stadiwm y Mileniwm fydd e i'r rheiny.

Ond fedra i ddeall pam - ma'n gwneud synnwyr economaidd da i Undeb Rygbi Cymru ga'l £15 miliwn i mewn i'r coffrau.

Ma rhaid gobeithio bod yr arian yn mynd i ymdreiddio lawr i'r rhanbarthau a helpu i glirio'r ddyled bondigrybwyll 'ma sydd wedi bod yn hongian uwchben yr Undeb am flynyddoedd mawr.

Disgrifiad o’r llun,
Fydd y nawdd ariannol newydd yn helpu i ddatblygu chwaraewyr rygbi'r dyfodol?