Carcharu Craig Greve wedi ymosodiad ci laddodd ei nain

  • Cyhoeddwyd
Craig GreveFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae dyn, oedd yn berchen ar gi wnaeth ladd ei nain yn eu cartref yng Nghaerdydd, wedi ei garcharu am bum mlynedd a hanner.

Bu farw Rhona Greve, 64 oed, ar ôl iddi ddioddef anafiadau i'w gwddf a'i hwyneb yn yr ymosodiad gan gi tarw Americanaidd Craig Greve, Solo, ar 20 Mawrth.

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Greve, 23 oed ac o Drelái, gyfaddef bod yn berchen ar gi oedd yn beryg ac allan o reolaeth.

Roedd eisoes wedi ei wahardd rhag bod yn berchennog ci wedi digwyddiad yn 2012.

'Tebygrwydd'

Yn Llys y Goron Caerdydd dywedodd yr amddiffyniad fod "posibilrwydd, yn wir tebygrwydd" y byddai Mrs Greve wedi byw petai ambiwlans wedi ei chyrraedd yn gynt.

Dywedodd John Charles Rees fod ambiwlans wedi ei alw tua 23:00 ond hanner awr wedyn dim ond parafeddyg ymateb brys oedd wedi cyrraedd ac roedd cyflwr Mrs Greve wedi gwaethygu.

Aeth yn anymwybodol ac fe gafodd drawiad ar y galon.

Dywedodd: "Daeth ei thrawiad ar y galon awr a hanner ar ôl galwad i'r ambiwlans."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Rhona Greve wedi'r ymosodiad

Gwaharddiad

Dywedodd yr erlynydd David Elias fod Greve wedi mynd i'r tŷ ar 20 Mawrth a bod y ci'n ymosod ar ei nain.

Clywodd y llys fod Mrs Greve yn 5' 5" o daldra ac na fyddai hi wedi gallu cadw rheolaeth ar gi oedd yn pwyso dros saith stôn.

Nid oedd Greve wedi galw am ambiwlans na'r heddlu ond pan ddaeth swyddogion yr heddlu, fe ddywedodd gelwydd am bwy oedd yn berchen ar y ci.

Roedd wedi ei wahardd rhag cadw ci oherwydd digwyddiad gyda chi arall.

Clywodd y rheithgor nad dyma oedd y tro cyntaf i Solo ymosod ar Mrs Greve. Yn 2013, aeth i'r ysbyty gydag anaf i'w braich.

'Mynd i ladd'

Ar ôl cael gwybod bod ei nain wedi marw clywodd y llys fod Greve wedi dweud: "Na. Mae 'mywyd i drosodd. Beth ydw i wedi ei neud? 'Dwi'n mynd i ladd fy hun."

Roedd wedi ei garcharu yn y gorffennol am ymosod ar ei nain.

Achos marwolaeth Mrs Greve oedd trawiad ar y galon (roedd clefyd y galon arni hi) wedi sawl brathiad gan gi.

Dywedodd Cofiadur Caerdydd, Eleri Rees, fod y fam wedi dioddef "ymosodiad parhaus a milain".

"Mae'n rhaid ei bod hi wedi dioddef poen aruthrol ac ofn," meddai.

Yn y cyfamser, mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi dweud: "Rydym yn cydymdeimlo gyda'r teulu ar adeg anodd ... mae'r ymddiriedolaeth yn dal i ymchwilio er mwyn deall yn llwyr ein hymateb ni i'r hyn ddigwyddodd."