Ffermwyr yn defnyddio ap i gadw golwg ar ddefaid

  • Cyhoeddwyd
Huw Jones
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r data yn cael ei anfon i ffôn Huw Jones

Mae dau frawd sy'n ffermio yng Ngwynedd wedi troi at eu ffonau er mwyn cadw trefn ar eu defaid.

Mae teulu Huw a Guto Jones wedi ffermio defaid mynydd ers blynyddoedd maith, ac erbyn hyn mae'r teulu yn cadw bron i 800 o ddefaid a wyn ar y fferm yn Nhalyglannau ger Mallwyd, Gwynedd.

Yn ogystal â'r ffordd draddodiadol o ddefnyddio cŵn defaid, mae ganddyn nhw nawr ap ffôn symudol i gadw trefn ar y da byw.

Maent yn defnyddio'r ffôn i nodi'r holl wybodaeth sydd ei angen am y defaid, gan gynnwys pwysau a gwybodaeth am iechyd y ddafad.

Yn ôl y ffermwyr mae'n arbed amser ac yn helpu iddyn nhw wella safon eu hanifeiliaid.

'Tipyn o sioc'

Fe gafodd y system ei datblygu yn rhan o brosiect TAG - sydd wedi ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop. Ei nod ydi i helpu ffermwyr i ddefnyddio technoleg i fod yn fwy effeithiol.

Yn ôl Huw Jones mae o wedi "gweithio'n galed i roi'r system ar waith".

Dywedodd fod ei "ffrindiau wedi cael cryn dipyn o sioc" yn ei weld o'n defnyddio'r ffôn symudol ar y caeau, ond nid yw hynny yn ei "boeni'n ormodol, gan fod y dechnoleg newydd wedi gwneud gwahaniaeth yn barod".

"Ac er nad oes yna bob amser signal ar y ffôn ar gyrion Eryri dydi hynny ddim yn broblem," meddai.