Agor arddangosfa dros dro Yr Ysgwrn

  • Cyhoeddwyd
Gerald Williams a Malo Bampton
Disgrifiad o’r llun,
Fe agorwyd yr arddangosfa gan Gerald Williams a Malo Bampton

Mae nai a nith y bardd Hedd Wyn wedi agor arddangosfa dros dro Yr Ysgwrn mewn seremoni arbennig nos Iau.

Fe agorwyd yr arddangosfa gan Gerald Williams a Malo Bampton yng Nghanolfan Plas Tan y Bwlch, Maentwrog.

Oherwydd gwaith gwarchod a datblygu, ni fydd yr Ysgwrn ar agor i'r cyhoedd o ddiwedd mis Tachwedd, ac felly yn y cyfamser mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi trefnu bod arddangosfa dros dro yn cael ei lleoli ym Mhlas Tan y Bwlch.

Bwriad yr arddangosfa yw cynorthwyo'r awdurdod i ddehongli negeseuon Yr Ysgwrn tra bod gwaith angenrheidiol yn digwydd ar y safle yn Nhrawsfynydd.

Gwaith plant lleol

Mae'r arddangosfa yn cynnwys model o'r Gadair Ddu a gwblhawyd drwy ddefnyddio technoleg argraffu 3D, ynghyd â ffrwyth llafur yr artist Luned Rhys Parri a disgyblion o ysgolion lleol Bro Hedd Wyn, Bro Cynfal ac Edmwnd Prys.

Yn ystod yr haf bu'r artist a'r disgyblion yn gweithio ar ail greu cegin Yr Ysgwrn, a'u gwaith nhw sy'n cael ei arddangos yn yr arddangosfa.

Dywedodd Siân Griffiths, Rheolwr Prosiect yr Ysgwrn: "Roedd hi'n dipyn o her i ni geisio ail-greu profiad hudolus Yr Ysgwrn ar safle hollol wahanol, ond dwi'n meddwl i ni lwyddo creu rhywbeth arbennig iawn yma.

"Gobeithio bydd yr arddangosfa'n cyffroi a chodi ymwybyddiaeth pobl am Yr Ysgwrn a'r cynlluniau sydd gennym ar gyfer gwarchod a gwella'r safle.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r plant, athrawon a'r rhieni fu'n gweithio gyda ni i greu'r arddangosfa hynod yma, ac wrth gwrs i Luned Rhys Parri am ei gwaith caled.

"Rydym hefyd yn falch iawn o gael sêl bendith Gerald a Malo wrth iddyn nhw gytuno i agor yr arddangosfa."

'Gwerth ei gweld'

Dywedodd Gerald Williams bod yr ystafell yn "werth ei gweld ac rydw i'n falch iawn fod y Parc yn cadw'r Ysgwrn yn fyw ym meddyliau pobl tra bod y gwaith yn digwydd".

"Yn y cyfamser, dwi hefyd yn gobeithio ymweld â'r Plas dros y cyfnod datblygu er mwyn rhannu fy straeon am Hedd Wyn efo ymwelwyr," meddai

Bydd Yr Ysgwrn yn ail-agor i'r cyhoedd ar ei newydd wedd erbyn Mawrth 2017.