Ymddiriedolaeth Castell Aberteifi yn amddiffyn ei gwaith

Castell Aberteifi

Mae aelod o'r ymddiriedolaeth sy'n rhedeg Castell Aberteifi wedi amddiffyn ei gwaith ymysg honiadau bod y cynllun wedi colli ei ffordd.

Fe wadodd y Cynghorwr Gareth Lloyd bod problem yn y berthynas rhwng Ymddiriedolaeth Cadwgan ac aelodau staff ar ôl i gyfarwyddwr y castell adael ei swydd yn yr haf.

Cris Tomos yw'r ail gyfarwyddwr i adael ei swydd mewn tair blynedd.

Mae pobl sy'n feirniadol o'r cynllun wedi codi pryderon am nifer y staff sy'n gadael eu swyddi yno.

Daeth gwaith adfer y castell i ben ar gost o £12m yn sgil grant o £6.2m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £4.3m gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd.

Cafodd Ymddiriedolaeth Cadwgan ei beirniadu ar ôl i grŵp gwerin o Loegr gael gwahoddiad i fod yn brif berfformwyr cyngerdd agoriadol swyddogol y castell ym mis Gorffennaf.

Roedd yr ymddiriedolaeth wedi dweud bod "rhaglen ardderchog o ddigwyddiadau" wedi ei threfnu yn y castell dros yr haf fyddai'n rhoi llwyfan i "berfformiadau cenedlaethol" a "thalent lleol".

Image caption Roedd dyfodol y castell yn edrych yn dywyll cyn y cynllun adfer gwerth £12m

Fe glywodd cyfarfod blynyddol yr ymddiriedolaeth bod dros 20,000 o bobl wedi ymweld â'r castell ers mis Ebrill, ond y byddai'n costio tua £80,000 y flwyddyn i redeg y safle.

Cafodd aelodau'r ymddiriedolaeth eu rhybuddio gan yr is-gadeirydd Dr Hedydd Jones ar ddechrau'r cyfarfod na fyddai "cwestiynau am faterion staffio a materion sensitif gweithredol arall" yn cael eu caniatáu.

Yn y cyfarfod, fe gafodd cadeirydd yr ymddiriedolwyr Jann Tucker ei hail-ethol.

Cafodd ddau ymddiriedolwr newydd eu hethol i'r ymddiriedolaeth hefyd - cyn-arweinydd Cyngor Ceredigion Keith Evans ac Eleri Non Davies.

'Angen hybu diwylliant Cymru'

Roedd rhai gwirfoddolwyr yn feirniadol nad oedd ganddyn nhw bwynt cyswllt yn y castell bellach, wedi i'r cydlynydd gwirfoddolwyr gael ei ddiswyddo yn gynharach yn y flwyddyn.

Fe wnaeth rhai gyhuddo aelodau'r ymddiriedolaeth o fethu â hybu diwylliant Cymru yn y castell.

Dywedodd cefnogwr blaenllaw o gynllun y Castell, y Tad Seamus Cunnane, bod angen mwy o bwyslais ar hanes yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd - sylfaenydd yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi.

Fe gafodd pamffledi eu dosbarthu ar ddiwedd y cyfarfod gan Gyfeillion Rhys ap Gruffudd - grŵp sy'n feirniadol iawn o'r cynllun - yn galw ar bobl Aberteifi i beidio cael eu "gwladychu", ac i gael dychymyg creadigol Cymreig i'r castell.

Straeon perthnasol