Morgannwg yn gobeithio am dywydd drwg
- Cyhoeddwyd

Mae gobeithion Morgannwg o beidio colli'u gêm yn erbyn Caint ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn dibynnu ar y tywydd ddydd Sadwrn, mae'n ymddangos.
Pan ddaeth Caint â'u hail fatiad i ben fore Gwener ar 451 am 2 wiced, roedd hynny'n golygu nod i Forgannwg o 554 i ennill y gêm
I'r ymwelwyr, daeth dau gyfraniad disglair iawn yn yr ail fatiad - 158 i Rob Key a 161 h.f.a. i Joe Denly.
Roedd y nod yn un amhosib yn barod, ond aeth yn waeth wrth i'r tîm cartref golli dwy wiced gynnar yn yr ail fatiad - Jeremy Lawlor yn gadael heb sgorio am yr eildro yn y gêm a David Lloyd yn ymadael am 4.
Fe geisiodd James Kettleborough a Colin Ingram sefydlogi pethau, ac fe gawson nhw beth llwyddiant gan lywio'u tîm i gyfanswm o 101 am 2 erbyn canol y prynhawn.
Yna dechreuodd y tywydd chwarae rhan yn y canlyniad. Oherwydd golau gwael bu'n rhaid rhoi'r gorau i chwarae ymhell cyn 16:00 sy'n golygu bod gan Forgannwg drwy'r dydd ddydd Sadwrn i fatio er mwyn achub gêm gyfartal.
Mae hyd yn oed hynny'n annhebygol, os na fydd y tywydd yn ymyrryd drachefn!
Morgannwg v. Caint: Pencampwriaeth y Siroedd (diwedd y trydydd diwrnod) -
Caint (batiad cyntaf) - 309
(ail fatiad) - 451 am 2 (dod â'r batiad i ben)
Morgannwg (batiad cyntaf) - 207
(ail fatiad) - 101 am 2