Ymchwilio i farwolaeth yng Nghaerdydd
- Published
Mae Heddlu'r De wedi bod yn ymchwilio mewn eiddo yng Nghaerdydd wedi i gorff menyw gael ei ddarganfod yno.
Cafodd swyddogion eu galw i ardal Tremorfa tua amser cinio ddydd Gwener, yn ôl swyddog.
Fe ddywed yr heddlu eu bod yn trin y farwolaeth fel un "anesboniadwy."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De:
"Am tua chanol dydd ddydd Gwener, 11 Medi, cafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad ym Meirion Place yn dilyn marwolaeth sydyn menyw, ac fe gafwyd hyd i'w chorff yn yr eiddo.
"Mae'r heddlu wedi ynysu'r ardal ac mae ymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad yn mynd rhagddo.
"Ar hyn o bryd mae marwolaeth y fenyw'n cael ei thrin fel un anesboniadwy. Does dim mwy o fanylion i law."