Trafod dyfodol Triathlon Ironman Penfro
- Cyhoeddwyd

Mae dros 1,700 o athletwyr o wahanol rannau o'r byd wedi cymryd rhan mewn ras triathlon yn Sir Benfro ddydd Sul.
Roedd trefnwyr Ironman Cymru yn disgwyl i filoedd o wylwyr a chefnogwyr wylio'r gweithgareddau yn ardal Dinbych y Pysgod.
Hwn o bosib fydd yr olaf o rasys Ironman Cymru i gael ei chynnal yn ne Penfro gan fod y cytundeb pum mlynedd yn dod i ben eleni.
Ond mae Cyngor sir Benfro wedi dweud wrth BBC Cymru fod trafodaethau wedi eu cynnal gyda'r trefnwyr er mwyn ceisio ymestyn y cytundeb, neu sicrhau cytundeb newydd.
Daeth Jesse Thomas o'r UDA yn fuddugol yn y ras ddydd Sul.
Poblogrwydd
Mae ras Ironman Cymru yng nghyd a ras y Long Course Weekend, ras triathlon sy'n para tridiau ac yn cael ei chynnal yn yr haf - wedi cynyddu mewn poblogrwydd ac yn dod ag arian sylweddol i'r economi leol.
Ond mae pryderon wedi eu mynegi gan rai am y llwybr seiclo, ar ôl i feiciwr gael ei anafu yn ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda fan yn ystod y Long Course Weekend ym mis Gorffennaf.
Dywed trefnwyr y ras honno eu bod wedi bod yn siarad gyda'r awdurdodau priodol ynglŷn â'r posibilrwydd o gyflwyno mwy o fesurau rheoli traffig ar gyfer y llwybr yn 2016.