Ystafelloedd myfyrwyr ddim yn barod ar gyfer Medi

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,
Prifysgol Aberystwyth

Bydd 300 o ystafelloedd sy'n rhan o ddatblygiad Fferm Penglais ar gyfer myfyrwyr prifysgol Aberystwyth ddim yn barod ar gyfer y tymor academaidd.

Ar ôl ei orffen fe fydd gan y prosiect gwerth £45 miliwn gyfanswm o 1,000 o ystafelloedd.

Ond dywed y brifysgol mai dim ond 700 fydd yn barod ar gyfer mis Medi.

Yn ôl y brifysgol mae'r datblygwyr Balfour Beatty wedi cadarnhau y byddant yn cwblhau'r 300 sy'n weddill yn ystod y flwyddyn academaidd 2015/2016.

Doedd yr un o'r 300 o ystafelloedd dan sylw wedi cael eu gosod i fyfyrwyr.