Buddugoliaeth i'r Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Ed JacksonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Dreigiau Gwent 13-0 Zebre

Fe wnaeth Dreigiau Gwent sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor drwy guro Zebre o'r Eidal yn y Pro 12.

Ed Jackson sgoriodd unig gais y gêm, gyda Jason Tovey yn croesi.

Cyn hynny roedd Tovey wedi llwyddo gyda dwy gic gosb.

Ni lwyddodd yr un tîm i sgorio mewn ail hanner siomedig.

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf y Dreigiau ar ôl colli i Connacht.