BBC Cymru Fyw

Canolfan y Mileniwm yn dathlu degawd

Published
image copyrightPA
Bydd penblwydd Canolfan y Mileniwm yn ddeg oed yn cael ei ddathlu gyda digwyddiad theatrig yn yr awyr agored ddydd Sadwrn.
Bydd 700 o bobl yn cymryd rhan ac mae'r ganolfan yn disgwyl torf o filoedd i edrych ar berfformiad Ar Waith Ar Daith ym mae Caerdydd.
Fe fydd y cynhyrchiad gan Walk the Plank yn cynnwys dawns, straeon a thân gwyllt.
Cyn y perfformiad fe fydd dwy gofeb lechen yn cael eu dadorchuddio.
Mae'r cofebau'n cynnwys geiriau barddonol gan ddau ddisgybl ysgol, Charlotte Hunt o Harlech, Gwynedd, a Lena Mikulova o Gaerdydd.
Cafodd disgyblion o ysgolion ar hyd Cymru eu gwahodd i greu pennillion ar gyfer y cofebau ar thema Cymreictod neu'r hyn y mae'n ei olygu i fyw yng Nghymru, gan gymryd ysbrydoliaeth o eiriau'r bardd Gwyneth Lewis sydd ar flaen y ganolfan.
image copyrightDavid Evans