Protest dros gau pont yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd

Mae dros 400 o bobl wedi cynnal protest yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn wrth i Gyngor Gwynedd ystyried cau pont droed dros aber yr afon Seiont yn y dref.
Fe fyddai cau bont droed yr Aber, sydd gyferbyn a'r castell hanesyddol, yn golygu taith ychwanegol o bron i ddwy filltir i deithwyr.
Mae'r cyngor yn ystyried dros 100 o opsiynau ar gyfer arbed arian ar hyn o bryd, mewn ymgais i wneud arbedion o £9m.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Bydd y rhestr hir o opsiynau posib - sy'n cynnwys cynnig i gau Pont Aber i gerddwyr er mwyn arbed £54,000 - yn destun ymarferiad ymgysylltu cyhoeddus sirol yn fuan, lle bydd holl drigolion Gwynedd yn cael cyfle i ddweud eu dweud. Bydd yr holl adborth gan y cyhoedd yn cael ei gyflwyno i gynghorwyr yn fuan yn 2016 cyn iddynt benderfynu pa wasanaethau i'w torri.
"O ran y cynnig i gau Pont yr Aber i gerddwyr, gallwn gadarnhau fod y Cyngor, yn gyfochrog gyda'r ymarferiad ymgysylltu, yn ystyried y posibilrwydd o drosglwyddo'r bont i sefydliad allanol."