Wrecsam 3 - 1 Altrincham
- Cyhoeddwyd

Cododd Wrecsam i'r ail safle yn y Gynghrair Genedlaethol wedi buddugoliaeth o 3-1 dros Altrincham.
Manteisiodd Wrecsam wedi i gic gan Connor Jennings daro Jake Moult cyn i'r bêl grymanu dros Tim Deasy.
Aeth y tîm cartref yn bellach ar y blaen gyda pheniad gan Blaine Hudson ond fe rwydodd Michael Rankine i'r ymwelwyr yn yr ail hanner.
Sgoriodd James Gray y drydedd gôl i Wrecsam gan sicrhau eu chweched buddugoliaeth. Mae Wrecsam wedi curo pob un o'u gemau cartref, tra bod Altrincham yn dal i aros am fuddugoliaeth i ffwrdd.