Casnewydd 1 - 2 Morecambe
- Cyhoeddwyd

Aeth pethau o ddrwg i waeth i glwb pêl-droed Casnewydd yn Adran 2 wedi i Morecambe gipio buddugoliaeth gyda chic o'r smotyn yn y munudau olaf brynhawn Sadwrn.
Morecambe oedd y cyntaf i sgorio er bod Casnewydd wedi gwthio'n gynnar - y gôl i'r ymwelwyr yn dod gan beniad Alan Goodall wedi cic gornel..
Sgoriodd Scott Barrow ei gôl gyntaf i Gasnewydd i wneud y sgôr yn gyfartal, ond ar ôl 94 munud fe ddaeth buddugoliaeth i'r ymwelwyr, ar ôl trosedd ar Kevin Ellison.