Criced: Crasfa i Forgannwg
- Published
Cafodd Morgannwg grasfa yn erbyn Caint ar ddiwrnod olaf Pencampwriaeth y Siroedd yng Nghaerdydd.
Daeth y gêm i ben gyda Chaint yn hawlio buddugoliaeth gyfforddus o 316 o rediadau. Ar ddechrau'r dydd roedd Morgannwg yn wynebu targed sylweddol o 554 o rediadau, gan ail-ddechrau'r chwarae ar 101-2.
O fewn awr roedd Stevens a Coles wedi cyfyngu Morgannwg i 132-7, ac am gyfnod roedd yn edrych yn debygol y byddai'r gêm yn dod i ben cyn cinio.
Ond fe darodd Colin Ingram ei gant o rediadau cyntaf i Forgannwg yn y Bencampwriaeth oddi ar 174 o beli i osgoi record anffodus o golli i'r sgôr uchaf erioed yn y gystadleuaeth. Roedd y tîm i gyd allan am 237.
Hon oedd y bedwaredd fuddugoliaeth i Gaint yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, a'r chweched gêm i Forgannwg ei golli.
Mae Caint yn codi i'r seithfed safle gyda Morgannwg yn disgyn yn bedwerydd tu ôl i Essex.