Gwrthdrawiad difrifol: Bachgen pump oed wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Gwrthdrawiad

Mae bachgen wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng Nghaerdydd fore dydd Sul.

Cafodd y bachgen pump oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gyda nifer o bobl eraill yn dilyn y gwrthdrawiad am 11:30, ond bu farw'r bachgen yn ddiweddarach.

Mae'r bobl eraill sydd yn yr ysbyty, yn cynnwys merch dwy oed, mewn cyflwr 'difrifol', yn ôl Heddlu De Cymru.

Roedd tri char yn y gwrthdrawiad - Ford Focus llwyd, Ford Focus gwyrdd a Seat gwyn. Bu'n rhaid torri pum oedolyn a dau blentyn yn rhydd o'r cerbydau a bu oedi hir am nifer o oriau i deithwyr yn yr ardal wedi i'r ffordd gael ei chau.

Cafodd yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, ambiwlans awyr a'r gwasanaeth tân eu galw i Rodfa'r Gorllewin ger Llandaf.

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro rybuddio pobl i beidio mynd i Ysbyty Athrofaol Cymru os nad oedd wir angen gwneud hynny, am fod yr uned frys yn brysur yn rhoi triniaeth i bobl oedd wedi eu hanafu.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd wedi gweld y digwyddiad neu wedi gweld y cerbydau yn y munudau cyn y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod *337849.

Ffynhonnell y llun, Mathew Horwood
Ffynhonnell y llun, @Davidbhangwan