Lle i Owen Smith yng nghabinet Corbyn?
- Cyhoeddwyd

Mae llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith yn aros i glywed os bydd yn parhau yn yr un swydd o dan arweinydd newydd y blaid, Jeremy Corbyn.
Cafodd Mr Corbyn fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn ei dri gwrthwynebydd ddydd Sadwrn.
Mae wedi dechrau ar y gwaith o gasglu aelodau i gabinet yr wrthblaid yn dilyn ei fuddugoliaeth.
Fe allai Mr Smith, sy'n Aelod Seneddol dros Bontypridd, ddarganfod yn ddiweddarach os bydd lle iddo.
Dywedodd ei fod yn "ddyn Llafur yn gyntaf ac yn fwy na dim" ac fe fyddai'n fodlon gweithio yng nghabinet Mr Corbyn.
Hyd yn hyn mae saith aelod wedi ymddiswyddo yn dilyn buddugoliaeth Mr Corbyn yn y ras am yr arweinyddiaeth.
Ond wrth ymateb i fuddugoliaeth Mr Corbyn, dywedodd un AS Llafur bod yr arweinydd wedi ei "pherswadio" i bleidleisio drosto.
Yn siarad ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, dywedodd AS Cwm Cynon, Ann Clwyd, ei bod hi wedi pleidleisio dros Mr Corbyn gan ei bod hi'n credu y byddai'n gallu ennill etholiad cyffredinol.
"Es i i rali oedd ganddo fo yng Nghaerdydd, a pobl yn eistedd ar y llawr ac yn sefyll a phopeth, wel oedd o'n teimlo mewn ffordd fel dwi'n meddwl y fase'r diwygiad, roedd 'na wefr yn y gynulleidfa fel oedd o'n siarad.
"Bydd o'n g'neud arweinydd da, ffeind wrth bawb ond eto yn credu'n gryf yn y pethau y mae o'n credu ynddyn nhw."
Dywedodd AS Llanelli, Nia Griffith: "Roedd y canlyniad yn glir iawn a nawr mae'n rhaid i ni ddod at ein gilydd a gweithio gyda'n gilydd i wrthwynebu'r Torïaid, dyna be' sy'n bwysig ac mae'n bwysig bod Jeremy yn cael tîm cryf iawn i helpu fe."
Un o newidiadau cabinet Jeremy Corbyn yw AS y Rhondda, Chris Bryant, sy'n symud o fod yn llefarydd diwylliant i fod yn arweinydd cysgodol y tŷ.
Mae Andy Burnham wedi ei benodi yn ysgrifennydd cartref yr wrthblaid, ac mae John McDonnell yn ganghellor yr wrthblaid.