Tân mawr mewn ffatri yn ddamweiniol

  • Cyhoeddwyd
Tan

Bu dros 70 o ddiffoddwyr yn ceisio diffodd tân mawr mewn ffatri ar stad ddiwydiannol ym Mlaenafon.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 13:15 ddydd Llun.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod tua 69 o ddiffoddwyr ac 8 o swyddogion wedi eu galw i'r safle.

Dechreuodd y tân yn ffatri ITW Foils. Roedd y ffatri yn y broses o gael ei dadgomisiynu ac roedd y rhan fwyaf o'r cemegau oedd ar y safle eisoes wedi ael eu clirio oddi yno.

Roedd y gwasanaeth tân wedi gyrru uned gemegau peryglu i'r safle, ond doedd dim ei hangen.

Gyda'r tân bellach o dan reolaeth mae nifer o'r diffoddwyr yn gadael y safle.

Mewn datganiad byr dywedodd y gwasanaeth tân bod y tân wedi ei gyfyngu i gefn yr adeilad, a'u bod wedi penderfynu ei fod wedi cynnau'n ddamweiniol.

Does dim adroddiadau o anafiadau.