Cais newydd am fferm wynt ddadleuol Mynydd y Gwair

  • Cyhoeddwyd
Mynydd y Gwair
Disgrifiad o’r llun,
Ardal Mynydd y Gwair ger Abertawe

Mae cwmni RWE Innogy UK wedi cyflwyno cais o'r newydd i godi fferm wynt ym Mynydd y Gwair i'r gogledd o Abertawe.

Cafodd ceisiadau blaenorol y cwmni eu gwrthod yn dilyn ymchwiliad.

Fe wnaeth Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Cymru, Rebecca Evans, rhwystro'r datblygiad gwerth £52m ger Felindre ar ôl ystyried adroddiad arolygwr cynllunio.

Roedd Cyngor Abertawe wedi rhoi caniatâd i gwmni RWE Innogy UK i adeiladu 16 o dyrbinau ar y safle.

Roedd y cynllun yn dibynnu ar y cwmni yn ffeirio tir comin fel rhan o'r broses, ond gwrthododd Llywodraeth Cymru yr elfen yma o'r datblygiad.

Yn ôl RWE Innogy, mae'r cais newydd yn ceisio ateb y materion a godwyd yn yr ymchwiliad ac a arweiniodd at wrthod y cais.

Dywedodd llefarydd ar ran y cynllun: "Rydym wedi ystyried adroddiad yr Archwilydd Cynllunio a'r materion a godwyd gan y dirprwy weinidog am ein cais blaenorol. Rydym wedi ychwanegu tir amgen ychwanegol.

"Mae gennym gyfle gwych yma ym Mynydd y Gwair i godi safle sy'n defnyddio'r dechnoleg carbon isel rhataf ac i ddenu dros £8.2m o fuddsoddiad i'r ardal."

Yn ôl y cwmni mae astudiaeth annibynnol yn dangos y gallai datblygiad Mynydd y Gwair greu hyd at 104 o swyddi yn ystod bob blwyddyn o'r gwaith adeiladu.

Gallai cynnal y safle wedyn greu 19 o swyddi eraill a bod yn werth £1.2m y flwyddyn i economi Cymru.

Cynllun dadleuol

Ond mae'r cynllun yn un dadleuol gyda nifer yn lleol yn ei wrthwynebu.

Pan gafodd y cais diwethaf ei wrthod, dywedodd aelod seneddol Gŵyr Byron Davies y dylai'r cwmni "fynd i ffwrdd a dod o hyd i rywle arall".

"Dylai RWE Innogy sylweddoli eu bod wedi cyrraedd pen y daith... mae'n amser gadael Mynydd y Gwair yn ei harddwch naturiol," meddai.

Mae Glyn Morgan yn arwain grŵp lleol sy'n gwrthwynebu'r datblygiad, ac roedd ef yn rhannu'r un farn gan ddweud ar y pryd:

"Ry'n ni wedi cael dau ymchwiliad cyhoeddus, ry'n ni wedi bod o'r Uchel Lys a'r Llys Apêl a bob tro maen nhw wedi penderfynu yn erbyn y fferm wynt yma felly mae'n bryd dweud digon yw digon."