30 y tair chwaer
- Cyhoeddwyd
Ddeng mlynedd yn ôl, bu'r gyfres deledu 'O'r Galon' ar S4C yn dilyn y dair chwaer Manon, Medi a Malan Vaughan Wilkinson o Gaernarfon, wrth iddyn nhw adael ysgol a pharatoi i fynd i'r coleg. Yn ddiweddar fe ddaeth Malan ar draws erthygl yn sôn am y rhaglen honno ar wefan BBC Cymru, gafodd ei chyhoeddi yn wreiddiol yn 2006, a wnaeth beri iddi hel meddyliau ar Twitter.
Ar 19 Medi, mae'r tripledi yn troi'n 30 oed ac yma maen nhw'n sôn sut mae eu bywydau wedi mynd i gyfeiriadau gwahanol dros y ddegawd diwethaf, yr effaith o golli eu mam a beth yw eu gobeithion am y dyfodol.
Malan
Mae'r ddegawd a mwy diwethaf wedi bod yn drên sgrech o emosiynau i mi. Ychydig ar ôl dechrau cwrs cyfraith ym Manceinion, mi benderfynais i mai newyddiaduraeth oeddwn i eisiau ei astudio go iawn.
Yn y pen draw, graddiais o Brifysgol Bangor cyn dechrau fy swydd gynta' fel gohebydd gyda Golwg360. Swydd wnes i fwynhau'n arw dan arweiniad Dylan Iorwerth. Yna mynd i farchnata gwaith theatrig Cwmni'r Frân Wen cyn cael cynnig fy swydd ddelfrydol fel Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig Galeri yng Nghaernarfon. Mae'r criw yn Galeri mor ysbrydoledig!
Ond, dyw'r daith heb fod yn hawdd i gyd. Dw i wedi wynebu cyfnodau tywyll iawn yn y blynyddoedd diwethaf yn brwydro iselder ac wedi gorfod treulio cyfnodau hir i mewn ac allan o Uned Iechyd Meddwl Hergest ym Mangor.
Does dim yn fy ngorffennol i'w feio am hyn - mae'n medru digwydd i unrhyw un, a roeddwn i'n un o'r rheiny yn anffodus. Mae'n hyfryd medru dweud bellach mod i mewn lle da ar ôl derbyn cefnogaeth di-baid staff ysbyty, seicolegwyr a seiciatryddion.
Dw i wedi ysgrifennu am fy mrwydr ag iselder ac am fy nghyfnod yn yr ysbyty yn y llyfr 'Gyrru Drwy Storom'. Mae'r ymateb i'r gyfrol wedi bod yn anhygoel! Dwi 'di derbyn degau o negeseuon gan ddieithriaid llwyr yn rhannu eu profiadau â mi. Mae'n rhoi gobaith mawr i mi weld bod y gyfrol wedi cyffwrdd cymaint, a phobl mor barod i siarad yn agored am iechyd meddwl.
O edrych nôl, wnaeth 'pellhau' oddi wrth fy chwiorydd fy ngrymuso i dyfu fel unigolyn ac i ffoi unwaith ac am byth o'r ystrydeb gyhoeddus ddiflas oedd gan rai ohonom fel 'uned' yn hytrach nac unigolion gyda'n meddyliau a'n breuddwydion ein hunain.
Ar drothwy fy mhenblwydd yn 30, braf gallu dweud mod i'n trysori bywyd - yr un bywyd geisiais i derfynu ychydig flynyddoedd yn ôl. Bellach, mae pob diwrnod yn teimlo fel rhodd.
Medi
O edrych yn ôl ar fy mywyd hyd yma mae wedi bod yn daith i'w chofio. Yn glytwaith cymhleth o gyffro, hapusrwydd, dedwyddwch, digalondid ac ansicrwydd. Mor anhygoel ydi ein taith ni gyd mewn gwirionedd o ddiniweidrwydd i realiti hagr.
Yn blentyn, dirdynnol oedd colli fy llyfr bach coch o gerddi. Yn 17 oed, dirdynnol i mi oedd colli Mam.
Felly, pwy oeddwn i a phwy ydw i rŵan? Nyrs oeddwn i, medda fi yn saith oed. Dynes trin gwallt yn 10. Athrawes Ffrangeg yn fy arddegau. Cenad yn 23... Ac ers hynny? Wel dwi'n hyfforddi i fod yn gwnselydd proffesiynol ac yn helpu dioddefwyr o gamdriniaeth yn y cartref a chamdriniaeth rhywiol.
O berfformio'n gyhoeddus ar lwyfannau tros y blynyddoedd mi wnes i droi fy ngolwg at ysgrifennu ac ennill ambell gadair am farddoni. Ac ers hynny, dwi'n meddwl mwy am yr hyn sydd yn digwydd y tu mewn i ni, am oroesi a helpu pobl eraill i oroesi.
Fy llwyddiant pennaf hyd yma fel plentyn fy mam a nhad a phlentyn i Dduw ydi dysgu sut i helpu fy hun hefo dwyster y profiadau dwi wedi eu profi hyd y blynyddoedd, sydd yn sylweddol. Nid hawdd oedd hyn ond hefo cymorth gwerth chweil mae o wedi trawsnewid fy mywyd.
Un ffyddlon sydd wedi bod yn graig i mi drwy'r digri a'r difrifol ydi Amigo (fy nghi defaid) ynghyd â llawer o ffrindiau annwyl. Gobeithio y byddwch ochr yn ochr â mi wrth i mi symud i bennod newydd. I'r dyfodol!
Manon
A minnau ar drothwy fy mhenblwydd yn 30, mae'n anochel mod i'n edrych yn ôl gan hel atgofion. Rhyw gyfnod digon ansicr oedd gorffen fy Lefel A. Gyda mwyafrif o'm ffrindiau (a'm chwiorydd) wedi derbyn eu llefydd mewn Prifysgolion, dyma ffeindio fy hun yn cymryd y "flwyddyn allan ffasiynol' i mi gael cysidro beth oedd fy opsiynau.
Gan mai fy mwriad oedd parhau i astudio Drama, byddai'n rhaid cysidro pa golegau, dewis areithiau a phrofi 'profiad bywyd' (beth bynnag yw gwir ystyr hynny)!
A finnau newydd golli fy mam, y cyfan oedd y flwyddyn honno i mi mewn gwirionedd oedd amser i addasu i'r newid byd o nghwmpas i. Y tair ohonom yn gwahanu. Cyfnod a oedd yn sialens ac yn awyr iach naturiol i'r dair ohonom.
Ar ôl nifer o gyfweliadau coleg myglyd, doniol a hurt ar brydiau (ac ambell noswaith allan gyda'r chwiorydd i lefelu'r straen) derbyniais fy lle yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru. Ers graddio, rydw i wedi mynd ymlaen i berfformio ym myd y theatr, ffilm a theledu. Mae rhai o'm prosiectau diweddar yn cynnwys 'Y Gwyll/ Hinterland' a 'Dim ond y Gwir' ar S4C.
O dair chwaer mor debyg, mae bywyd yn bendant wedi ein gwahanu mewn sawl ffordd. Allai ddim ond dychmygu y daw'r dyfodol â mwy o lawer o 'brofiadau bywyd' i'm rhan gan obeithio y bydd rheini yn rhai caredig, ac y bydd y naill chwaer yn medru eu mwynhau hefyd.