ASau Cymreig yng nghabinet Corbyn
- Cyhoeddwyd

Wrth i arweinydd newydd Llafur, Jeremy Corbyn, ddewis ei gabinet yn dilyn ei fuddugoliaeth ddydd Sadwrn, mae nifer o ASau Cymreig wedi hawlio eu lle.
Nia Griffith, yr aelod dros Lanelli, fydd llefarydd y blaid ar faterion Cymreig, tra bod ei rhagflaenydd yn y swydd, AS Pontypridd Owen Smith wedi cael portffolio newydd, sef gwaith a phensiynau.
Mae AS Y Rhondda Chris Bryant yn aros ar y meinciau blaen ond yn symud o ddiwylliant i'w rôl newydd fel llefarydd yr wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin.
Er iddo ddenu beirniadaeth gan rai am "ddiffyg merched" yn y prif swyddi, mae Mr Corbyn wedi disgrifio ei gabinet fel un fydd yn "uno, yn ddynamig a chynhwysol", ble mae "merched yn y mwyafrif".
Dadansoddiad Gohebydd Seneddol BBC Cymru James Williams o gabinet Jeremy Corbyn
Pan fydd cabinet newydd Jeremy Corbyn yn cwrdd am y tro cyntaf, fe fydd yna dri wyneb Cymreig o amgylch y bwrdd.
Doedd Owen Smith (Gwaith a Phensiynau), Chris Bryant (Arweinydd yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin) na Nia Griffith (Cymru) ddim wedi cefnogi'r arweinydd newydd - arwydd, medde tîm Corbyn, o natur unedig y cabinet newydd.
Rhwydd dweud, anoddach gwneud.
"Mae'n mynd i fod yn siwrne anghyfforddus," dywedodd Chris Bryant fore Llun.
Wedi'r cyfan, mae'n amlwg bod yna wahaniaeth enfawr ym marn aelodau cyffredin Llafur ar lawr gwlad ac aelodau seneddol y blaid.
Mae Jeremy Corbyn yn arwain grŵp seneddol lle does ganddo fawr o gefnogwyr.
Roedd 12 o gyn aelodau cabinet Ed Miliband wedi penderfynu dychwelyd i'r meinciau cefn oherwydd eu bod nhw'n anghytuno gyda syniadau a gwleidyddiaeth Corbyn.
Yn wir, mae 'na rai sy'n parhau yn y cabinet yn anghytuno 'da fe ar rai o'r pynciau llosg - er enghraifft, ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd ac adnewyddu arfau niwclear Trident.
Ond mae buddugoliaethau etholiadol yn sicr o dawelu meddyliau.
I'r perwyl hynny, fe fydd yna brawf cynnar yn Llundain, yr Alban a Chymru'r flwyddyn nesaf.
'Dangos y ffordd'
Yn ei chyfweliad cyntaf wedi ei phenodiad, dywedodd Nia Griffith ar raglen Taro'r Post ar Radio Cymru ddydd Llun ei bod yn edrych 'mlaen at gydweithio gyda'r arweinydd newydd.
"Ni'n blaid fawr," meddai. "Mae cymaint o syniadau gwahanol. Ond ar y pethau sylfaenol, er enghraifft, tegwch i deuluoedd, petha' fel hynny, rydyn ni'n gwneud ein gorau glas i'w cyflawni."
"Yng Nghymru, ni wedi arwain y ffordd o'r blaen - gwrthod defnyddio'r sector preifat yn yr NHS, gwrthod academies. Nawr, gyda'r etholiad sy'n dod blwyddyn nesa', mae angen creu maniffesto newydd, innovative, rhywbeth gwahanol. Fi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn dipyn mwy i'r chwith - mae cyfle nawr i ddangos y ffordd ymlaen a chydweithio."
Cyfeiriodd at y feirniadaeth nad oedd unrhyw ferch wedi'i phenodi i'r prif swyddi, gan ddweud fod "bai ar y broses o ddewis arweinydd".
"Roedden ni wedi dewis dirprwy'r un pryd. Petai ni wedi cael dau etholiad gwahanol, byddai cyfle wedi bod i gael menyw yn fanna petai dyn wedi'i ddewis yn arweinydd. Chi methu rhoi'r bai ar Jeremy am hynna. Ac wrth gwrs, mae o wedi dewis Angela Eagle fel ei ddirprwy yn y rôl ac mae hynny'n bwysig iawn."
'Swyddi da'
Dywedodd Owen Smith AS am ei benodiad fel y llefarydd ar waith a phensiynau:
"Fe gafodd ein plaid ei chreu ganrif yn ôl er mwyn rhoi siawns i bawb gael swydd, gyda thâl sy'n rhoi safon byw da ac mae hynny'r un mor bwysig heddiw.
"O dan y Ceidwadwyr, mae gormod o bobl ym Mhrydain yn colli'r cyfle am swydd dda, gyda chyflog byw go iawn, a'r diogelwch a mwynhad sy'n dod o hynny.
"Rwy'n bwriadu ei gwneud yn swydd i mi, ac yn fwriad gan Lafur, i ymladd i wneud y gobeithion sylfaenol hynny'n realiti i'n pobl."
'Dewis gwych'
Ymhlith y swyddi eraill yng nghabinet Llafur, mae Andy Burnham - ddaeth yn ail yn y ras am yr arweinyddiaeth - wedi'i benodi fel llefarydd yr wrthblaid ar faterion cartre', tra bod John McDonnell wedi'i ddewis fel llefarydd ar y trysorlys.
Roedd nifer o ffigyrau blaenllaw o fewn y blaid wedi dweud nad oedden nhw eisiau cael eu hystyried am swyddi yng nghabinet Mr Corbyn.
Dywedodd Mick Antoniw, yr Aelod Cynulliad Llafur dros Bontypridd, ar wefan Twitter fod Ms Griffith yn "ddewis gwych" a'i fod yn "edrych 'mlaen i'r berthynas rhwng y blaid Lafur yng Nghymru a'r DU".
Yn ôl y cyn AS Ewropeaidd, y Farwnes Eluned Morgan, dyma'r "gynrychiolaeth gryfa' o Gymru yng nghabinet yr wrthblaid ers blynyddoedd".
Straeon perthnasol
- 14 Medi 2015