Cyngor Gwynedd i benderfynu ar ad-drefnu addysg yn Y Bala
Llyr Edwards
Gohebydd BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Mi fydd cabinet Cyngor Gwynedd yn penderfynu'n derfynol ddydd Mawrth a fyddan nhw'n bwrw 'mlaen ai peidio gyda chynllun dadleuol i sefydlu ysgol eglwys newydd yn Y Bala.
Fel rhan o gynllun ad-drefnu addysg yn yr ardal, y syniad yw uno dwy o ysgolion cynradd y dref, sef Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant - sy'n ysgol eglwys - gydag Ysgol y Berwyn.
Byddai campws addysgol newydd yn cael ei sefydlu ar safle presennol Ysgol y Berwyn i blant rhwng tair ac 19 mlwydd oed.
Mae 'na gefnogaeth cyffredinol yn y cylch i'r cynllun uno, ond mae 'na wrthwynebiad mawr i'r syniad o ddynodi'r ysgol newydd yn Ysgol Eglwys.
Mae llawer, gan gynnwys llywodraethwyr Ysgol y Berwyn, am weld y safle'n cael statws cymunedol fel sydd gan Ysgol y Berwyn a Bro Tegid ar hyn o bryd.
Deiseb
Un sy'n gwrthwynebu'r statws eglwysig ydi Dylan Jones, sy'n byw yn Y Bala.
Fe ddywedodd ei fod wedi trefnu deiseb yn erbyn y cynllun a bod rhyw 250 o bobol wedi ei harwyddo
Meddai: "Mae'r syniad o sefydlu ysgol eglwys yn mynd yn groes i draddodiad anghydffurfiol Pum Plwy Penllyn''.
'O'r radd flaenaf'
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, sy'n gyfrifol am addysg ar gabinet Cyngor Gwynedd, ei fod yn deall bod 'na wrthwynebiad yn ardal Y Bala. Ond ychwanegodd y byddai'r arian ar gyfer y cynllun yn cael ei golli oni bai eu bod yn symud yn sydyn gyda'r ad-drefnu.
Ychwanegodd y byddai pob math o fanteision yn dod o'r cynllun yn addysgol a chymdeithasol.
"Mae'r buddsoddiad yn mynd i sicrhau adnoddau addysgol o'r radd flaenaf yn y dref hefyd, ac yn sicrhau dyfodol y chweched dosbarth yn yr ardal a'r tair ysgol arall yn y cylch," meddai.
Doedd neb o'r Eglwys yng Nghymru na Llywodraethwyr Ysgol y Berwyn yn fodlon gwneud cyfweliad cyn cyfarfod y cabinet.
Yr argymhelliad ydi y dylid bwrw 'mlaen â'r cynllun ad-drefnu a sefydlu ysgol eglwys newydd yn Y Bala ac y dylid cynnal adolygiad o berfformiad yr ysgol ymhen dwy flynedd ar ôl iddi gael ei sefydlu.
Straeon perthnasol
- 31 Mai 2015
- 20 Ebrill 2015
- 19 Chwefror 2015