Nigel Owens: Ymddygiad annerbyniol byd y bêl gron
- Cyhoeddwyd

Ar drothwy Cwpan Rygbi'r Byd, mae'r dyfarnwr Nigel Owens wedi cwyno am "ymddygiad annerbyniol" rhai o chwaraewyr a rheolwyr enwoca' byd y bêl gron.
Wrth iddo baratoi i fod yn rhan o banel o 12 dyfarnwr yn ystod y bencampwriaeth rygbi, fe ddywedodd Nigel Owens y byddai'n mwynhau dyfarnu gêm bêl-droed ar y lefel uchaf.
"Mae'r ymddygiad yn annerbyniol," meddai Owens wrth gylchgrawn y Radio Times.
"Fe garen i roi cynnig ar ddyfarnu pêl-droed. Dw i'n ofni y bydden nhw'n chwarae pump-bob-ochr cyn hanner amser.
"Petai rheolwr rygbi yn gweiddi ar ddyfarnwyr fel Jose Mourinho a rhai tebyg, fe fydden nhw'n cael eu trin yn llymach."