Defaid marw: Dedfrydu ffermwr

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr o Geredigion wedi cael dedfryd o chwe mis dan glo wedi ei gohirio am ddwy flynedd, wedi iddo bledio'n euog i achosi i ddefaid ddioddef yn ddiangen.

Mae hefyd wedi ei wahardd rhag cadw defaid am saith mlynedd.

Daeth swyddogion iechyd amgylcheddol o hyd i 200 o gyrff defaid ar dir fferm William Edwards, 50, ger Pontarfynach.

Yn ôl swyddogion y cyngor, roedd rhai defaid wedi dioddef effeithiau diffyg maeth a pharasitiaid, ac eraill yn methu sefyll am eu bod nhw'n rhy wan.

Er iddo dderbyn nifer o rybuddion gan y cyngor, wnaeth y sefyllfa ddim gwella a bu farw mwy na 200 o ddefaid ac ŵyn rhwng mis Hydref 2014 ac Ebrill eleni.

21 achos

Fe blediodd Edwards yn euog i 21 achos:

  • Pump o fethu â chael gwared â chyrff
  • 10 o achosi dioddef yn ddiangen
  • Tri o fethu â chydymffurfio â gorchymyn i gael gwared â chyrff
  • Tri o fethu ag ateb anghenion anifeiliaid yn ei ofal

Ymddiheuriad

Fe ymddiheurodd cyfreithiwr Edwards, Alison Mathias, ar ei ran. Dywedodd "nad oedd wedi gallu cwrdd â'r safonau disgwyliedig".

Ychwanegodd Ms Mathias fod Edwards wedi gallu ymdopi â'r fferm a'r anifeiliaid am 17 mlynedd, ond bod rhywbeth wedi mynd o'i le ers tua blwyddyn. Yr unig reswm gafodd ei gynnig am hynny oedd "blinder".

Fe ddywedodd fod "Mr Edwards yn teimlo ei fod yn gwneud popeth o fewn ei allu, ond o'r tu allan mae'n amlwg nad oedd yn gwneud digon."

Wedi'r dyfarniad ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion fod "difrifoldeb y ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb yr achos", ond fe bwysleision nhw hefyd fod yr achos hwn yn un "anarferol iawn".