Rhybudd llifogydd wedi glaw trwm yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Wedi glaw trwm nos Lun, mae nifer o gartrefi yn Sir Benfro wedi dioddef llifogydd.
Fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod nhw'n delio ag achosion yn Hwlffordd ac Aberdaugleddau.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi rhybuddio fod amodau'n parhau i waethygu yn y sir, gyda "nifer o ffyrdd" ynghau.
Mae rhybudd llifogydd mewn grym ar gyfer Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd.