Yr heddlu'n ymchwilio i athro yn Ysgol Syr Hugh Owen

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Syr Hugh OwenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Mae BBC Cymru yn deall bod yr unigolyn yn aelod o staff Ysgol Syr Hugh Owen

Mae athro mewn ysgol uwchradd yn y gogledd wedi ei atal o'i swydd ar ôl cael ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod yr unigolyn yn aelod o staff ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, er nad yw'r heddlu na'r cyngor wedi cadarnhau hynny.

Mae'r dyn ar fechnïaeth tan ddechrau 2016, wrth i Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd gynnal ymchwiliad.

Does dim mwy o wybodaeth am natur eu hymchwiliad ar hyn o bryd.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru:

"Gallwn gadarnhau fod Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i aelod o staff dysgu'r awdurdod addysg. Mae unigolyn wedi cael ei arestio ac ar fechnïaeth yr heddlu tan yn gynnar yn 2016 tra bod yr ymchwiliad yn parhau."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:

"Gallwn gadarnhau fod aelod staff dysgu'r awdurdod wedi eu hatal o'r gwaith nes cwblhau ymchwiliad ar y cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru. Ni fyddwn yn cynnig sylw pellach tra bod yr ymchwiliad yn parhau."