Ffoaduriaid: Cyfle i Gymru?
- Cyhoeddwyd
Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gynnal uwchgynhadledd ar yr argyfwng ffoaduriaid, mae'r Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth wedi ysgrifennu erthygl i Cymru Fyw yn edrych ar yr argyfwng o safbwynt daearyddol.
Ac yntau'n bennaeth Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, mae'n credu y gall hynny ein helpu i ddeall a dehongli natur yr argyfwng, ac mae'n gweld cyfle i Gymru ddangos arweiniad.
Ysgogodd yr argyfwng ffoaduriaid, sydd wedi bod mor amlwg yn y wasg dros y misoedd diwethaf, nifer o gwestiynau moesol dyrys iawn ynghylch hawliau unigolion i oroesi yn rhai o wledydd tlotaf a mwyaf treisgar y byd.
Ar yr un pryd, arweiniodd yr argyfwng i nifer o sylwebwyr, gwleidyddion a phobl gyffredin ystyried beth yw natur cyfrifoldebau gwledydd cyfoethocaf y byd tuag at y rheiny sy'n dioddef tlodi a gorthrwm, ac sy'n ceisio darganfod ffyrdd ymarferol o ymateb i'w problemau drwy geisio bywyd gwell yn Ewrop.
I fi fel daearyddwr proffesiynol, mae'n arwyddocaol iawn fod yna sawl agwedd ar ddaearyddiaeth sy'n ein helpu i ddeall a dehongli natur yr argyfwng.
Gwahaniaeth daearyddol
Yn gyntaf, sail yr argyfwng yw'r gwahaniaeth daearyddol sylfaenol yng nghyfleoedd bywyd pobl mewn gwledydd amrywiol.
Wedi dechrau'r trais yn Syria, er enghraifft, cwympodd disgwyliad oes pobl ryw 20 mlynedd (o 76 yn 2010 i tua 56 yn 2014). Cymharwch hynny gyda'r disgwyliad oes o 81 yn Yr Almaen neu'n agos at 82 ym Mhrydain.
Yn hyn o beth, nid dim ond ceisio bywyd gwell mae ffoaduriaid wrth fudo o un wlad i'r llall. Yn syml iawn, maen nhw'n ceisio bywyd.
Yn ail, mae'r argyfwng yn dangos yr argyfwng yn eglur y pegynnu yng ngallu unigolion i symud o un lle i'r llall. I lawer ohonon ni yn y gorllewin, mae symudolrwydd yn un o'n hawliau dynol.
Ers 1995, pan ddaeth Cytundeb Schengen i rym, cawson ni yr hawl gyfreithiol, fel Ewropeaid, i fudo i ganfod gwaith ymhob un o'r gwledydd hynny sy'n rhan o Ewrop.
At eto, agwedd arall ar Gytundeb Schengen oedd yr ymdrech i greu ffiniau cadarnach oddi amgylch Ewrop. Mae'r llinell goch drwchus ar fap o'r cytundeb yr arddangos yn eglur yr ymdrech i godi mur oddi amgylch Ewrop, ynghyd â'r agwedd tuag y rheiny sy'n ceisio croesi'r ffin honno.
Ymateb i farwolaeth
Am gyfnod yn gynharach eleni polisi swyddogol Ewrop oedd peidio â chynnig gwasanaeth achub ar gyfer y rheiny oedd yn ceisio croesi Môr y Canoldir i Ewrop rhag ofn y byddai gwasanaeth o'r fath yn annog mwy o fudwyr i fentro ar y siwrnai beryglus.
Boddi fel arf teilwng i bolisi tramor? Mae'r eironi'n amlwg wrth ystyried ymateb gwleidyddion i farwolaeth ddiweddar Aylan Kurdi, y bachgen bach o Syria gafodd ei weld wedi boddi ar draeth yn Nhwrci.
Yn olaf, dengys mae'r argyfwng yn dangos yr amrywiaethau eang yn naearyddiaeth moesoldeb, yn benodol yng nghyd-destun gwledydd Ewrop.
Cafodd Hwngari ei beirniadu, er enghraifft, am ei hagwedd giaidd tuag at y ffoaduriaid yn eu mysg. Yn agosach aton ni yng Nghymru, roedd trafodaeth ddiddorol ynghylch diffyg arweiniad Prydain yn ystod yr argyfwng presennol.
Fe gawsom ein magu i gyd ym Mhrydain ar y myth fod tegwch, cyfiawnder a brawdgarwch yn rhai o rinweddau amlycaf Prydeinwyr. Efallai mai'r hyn sydd wedi achosi'r pen tost mwyaf, yn hyn o beth, yw mai'r hen elyn, Yr Almaen, sydd bellach yn arddangos y polisi tramor mwyaf cyfiawn a theg.
Datganodd Angela Merkel y byddai'r Almaen yn derbyn o leiaf 800,000 o ffoaduriaid eleni o'u cymharu gyda'r 20,000 y dywedodd David Cameron y byddai Prydain yn fodlon eu derbyn o Syria dros gyfnod o bum mlynedd.
Ond, wrth gwrs, mae Prydain yn wlad ddatganoledig. Nid oes gan Gymru na'r Alban yr hawl i lunio eu polisi tramor eu hunain ond, eto i gyd, mae ganddyn nhw ddwy Senedd fyddai'n gallu rhoi cryn bwysau - pwysau moesol ond hefyd pwysau gwleidyddol - ar Lywodraeth San Steffan er mwyn iddyn nhw fabwysiadu agwedd fwy trugarog tuag at ffoaduriaid.
Nododd neb llai na Chyngor Ffoaduriaid Cymru yn ddiweddar y byddai'n addas i Gymru dderbyn "cyfran deg" o'r ffoaduriaid y nododd David Cameron y byddai Prydain yn fodlon eu derbyn, cyfran fyddai'n cyfateb i 8% o'r holl ffoaduriaid y byddai Prydain yn eu derbyn sef 1,600 o bobl dros y pum mlynedd nesaf.
Onid oes modd i Gymru i wneud mwy na hyn? Yn aml, rydynm yn clywed y ddadl fod cyfiawnder a thegwch yn rhai o nodweddion amlycaf gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru.
Dyma wlad neges heddwch yr Urdd. Gwleidyddion y wlad hon hefyd gyfrannodd mewn ffyrdd allweddol tuag greu'r Wladwriaeth Les.
Mae Carwyn Jones yn cynnal uwch-gynhadledd yr wythnos hon i drafod yr argyfwng ffoaduriaid a'r cyfraniad y gall Cymru ei wneud i ddatrys y broblem.
Dyma gyfle amlwg i Brif Weinidog Cymru i ddangos arweiniad moesol a gwleidyddol drwy ddatgan y bydd Cymru yn fodlon derbyn mwy na'i siâr o ffoaduriaid nid dim ond "cyfran deg".
Yn ogystal ag adlewyrchu ethos gwleidyddol ein gwlad, y gobaith yw y bydd, drwy wneud hyn, yn dwysbigo gwleidyddion San Steffan fel eu bod hwy hefyd yn ymateb mewn ffyrdd llawer mwy cyfrifol a brawdgarol tuag at un o argyfyngau mwyaf ein cenhedlaeth.