Jonathan Thomas yn ymddeol o rygbi

  • Cyhoeddwyd
Jonathan ThomasFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Jonathan Thomas ddiagnosis o epilepsi yn dilyn nifer o ergydion i'w ben tra'n chwarae rygbi

Mae blaenwr rhyngwladol Cymru a'r Gweilch Jonathan Thomas wedi cael ei orfodi i ymddeol o rygbi yn 32 oed.

Mewn datganiad dywedodd ei glwb presennol o Gaerwrangon - y Worcester Warriors - ei fod wedi cael diagnosis o epilepsi y llynedd "y credir ei fod yn deillio o nifer o ergydion i'w ben ac sydd wedi arwain at rywfaint o niwed i'r ymennydd".

Ar gyngor meddygol felly mae Thomas, a enillodd 67 o gapiau i Gymru rhwng 2003 a 2011 ac a chwaraeodd mewn dwy Gwpan y Byd, wedi penderfynu sefyll o'r neilltu.

Cyhoeddodd Thomas ei hun ddatganiad personol sy'n dweud:

"Gyda thristwch mawr y mae'n rhaid i mi gyhoeddi fy ymddeoliad o'r gêm ar unwaith.

"Rwyf wedi gwneud popeth o fewn fy ngallu i barhau i chwarae, ond mae amser yn dod pan mae rhywun yn sylweddoli fod rhaid gwrando ar gyngor meddygol.

"Mae sawl gwahanol fath o epilepsi ac rwy'n pwysleisio fy mod yn ffodus mai ffurf ysgafn sydd gen i o'i chymharu â rhai. Er hynny mae wedi profi'n rhy anodd i barhau fel athletwr proffesiynol.

"Uchafbwynt fy ngyrfa oedd cynrychioli Cymru. Ar ôl tyfu fyny fel cefnogwr brwd roedd cael chwarae gyda chynifer o chwaraewyr gwych, ennill y Gamp Lawn ddwywaith, chwarae yng Nghwpan y Byd ddwywaith ac ennill 67 o gapiau yn rhywbeth yr oeddwn i'n breuddwydio am wneud fel plentyn.

"Rwyf wedi dysgu llawer am ergydion i'r pen dros y misoedd diwethaf... ar lefel ucha'r gêm rwy'n credu bod undebau ac adrannau meddygol y clybiau yn gwneud gwaith gwych ond mae angen addysgu'r chwaraewyr am yr arwyddion peryglus."

Un o'r ergydion a gafodd Thomas oedd mewn tacl gan Jonny Wilkinson mewn gêm rhwng Cymru a Lloegr yn 2008.

Cafodd ei daro'n anymwybodol yn y dacl a'r sgarmes a ddilynodd.

Dros y misoedd diwethaf mae nifer o chwaraewyr rhyngwladol - gan gynnwys George North - wedi bod yn rhan o ddadl am ddiogelwch yn y gêm wedi iddyn nhw dderbyn cyfres o gyfergydion wrth chwarae.

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,
Enillodd Thomas 67 o gapiau dros Gymru