Reyaad Khan ac Amin yn gefndryd
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Reyaad Khan ymddangos yn fideo eithafwyr Islamaidd
Mae'r BBC ar ddeall bod dau jihadydd o Brydain - gan gynnwys Reyaad Khan o Gaerdydd - a laddwyd gan awyren ddibeilot yr Awyrlu Brenhinol yn Syria yn ddau gefnder.
Mae perthnasau i Reyaad Khan yn Bangladesh wedi cadarnhau bod Khan a Ruhul Amin o Aberdeen yn perthyn i'w gilydd.
Dywedodd ewythrod Khan wrth y BBC bod y teulu wedi synnu'n fawr gyda'r newyddion ei fod wedi ymuno â'r mudiad sy'n cael ei adnabod fel IS, ac yn credu iddo gael ei gyflyru yn y DU.
Ddydd Llun diwethaf cadarnhaodd y prif weinidog David Cameron bod dau Brydeiniwr, Khan ac Amin, wedi cael eu lladd yn yr ymosodiad ar 21 Awst.
Dywedodd aelodau o deulu Khan yn Bangladesh bod gweddïau wedi eu dweud dros y ddau ddyn yn y mosg yn eu pentrefi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2015
- Cyhoeddwyd8 Medi 2015
- Cyhoeddwyd8 Medi 2015
- Cyhoeddwyd7 Medi 2015
- Cyhoeddwyd2 Medi 2015