Tri achos o E.coli yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
E.coli

Mae swyddogion iechyd yn ymchwilio i dri achos o E.coli yn Sir Conwy.

Dywedodd y cyngor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fod gan y plant gysylltiad â'i gilydd y tu allan i'w cylchoedd gofal.

Mae'r bobl sy'n gofalu amdanyn nhw yn y cylchoedd gofal wedi gwirfoddoli rhoi'r gorau i weithio dros dro tra bod ymchwiliadau'n parhau.

Hyd yma mae 18 o unigolion wedi cael profion ac mae'r rheiny wedi profi'n negyddol.

Y gred yw bod y plant wedi cael eu heintio y tu allan i'w cylch gofal.

Dolur rhydd

Mae'r plant sydd wedi eu heintio yn ôl adref ac yn gwella.

Dywedodd Dr Chris Whiteside o Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y cyflwr yn gallu achosi dolur rhydd difrifol.

"Mewn rhai achosion mae'n gallu achosi i'r aren fethu ac mae'n gallu arwain at farwolaeth.

"Yn aml, mae E.coli 0157 oherwydd plant ifanc yn dod i gysylltiad gydag anifeiliaid fferm.

Mae hefyd yn cael ei gysylltu gyda bwyta bwyd wedi ei heintio neu yfed llaeth heb ei basteureiddio."

Dylai unrhyw un sy'n poeni gysylltu â'u meddyg teulu neu'r gwasanaeth iechyd ar 0845 4647.