Cyngor sir yn rhoi sêl bendith i gynllun addysg Y Bala

  • Cyhoeddwyd
Ysgol y Berwyn
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y cynllun newydd yn golygu campws mawr ar safle Ysgol y Berwyn

Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi penderfynu bwrw 'mlaen gyda chynllun dadleuol i sefydlu ysgol eglwys newydd yn Y Bala.

Ond bydd yna adolygiad o berfformiad yr ysgol ymhen dwy flynedd, gan gynnwys ei statws, ar ôl iddi gael ei sefydlu.

Fel rhan o gynllun ad-drefnu addysg bydd dwy o ysgolion cynradd y dref, Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant - sy'n ysgol eglwys - yn uno gydag Ysgol Uwchradd y Berwyn.

Campws

Felly bydd campws addysgol newydd ar safle presennol Ysgol y Berwyn i blant rhwng tair ac 19 oed.

Mae 'na gefnogaeth gyffredinol yn y cylch i'r cynllun uno ond mae gwrthwynebiad mawr wedi bod i'r syniad o ddynodi'r ysgol newydd yn Ysgol Eglwys.

Roedd llawer, gan gynnwys llywodraethwyr Ysgol y Berwyn, am i'r safle cael statws gymunedol fel sydd gan Ysgol y Berwyn a Bro Tegid ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Ysgol Beuno Sant wedi ei dynodi'n ysgol yr Eglwys yng Nghymru

Un sy'n gwrthwynebu'r statws eglwysig ydi Dylan Jones o'r Bala drefnodd ddeiseb y mae 250 o bobol wedi ei harwyddo.

"Mae'r syniad o sefydlu ysgol eglwys yn mynd yn groes i draddodiad anghydffurfiol Pum Plwy Penllyn,' meddai.

'O'r radd flaenaf'

Roedd y Cynghorydd Gareth Thomas, sy'n gyfrifol am addysg ar gabinet Cyngor Gwynedd, wedi dweud ei fod yn deall bod 'na wrthwynebiad yn ardal Y Bala ond y byddai'r arian ar gyfer y cynllun yn cael ei golli oni bai eu bod yn symud yn sydyn gyda'r ad-drefnu.

Ychwanegodd y byddai manteision addysgol a chymdeithasol.

"Mae'r buddsoddiad yn mynd i sicrhau adnoddau addysgol o'r radd flaenaf yn y dref hefyd, ac yn sicrhau dyfodol y chweched dosbarth yn yr ardal a'r tair ysgol arall yn y cylch," meddai.

Doedd neb o'r Eglwys yng Nghymru na llywodraethwyr Ysgol y Berwyn yn fodlon gwneud cyfweliad cyn cyfarfod y cabinet ond dywedodd Rosalind Williams, Cyfarwyddwraig Addysg Esgobaeth Llanelwy wedi'r penderfyniad: "Rwy'n croesawu'r penderfyniad. Mae'n newyddion da i bobl ifanc yn ardal Y Bala, oherwydd gwellir darpariaeth ar gyfer eu haddysg. Mae'n golygu hefyd bydd ystod o wasanaethau yn yr ardal leol yn cael eu datblygu."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe allai tair ysgol gau yn y dre' er mwyn creu un ysgol newydd ar safle Ysgol y Berwyn